

Drama
Theatre Re: Moments
Trosolwg
Sad 27 Med 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Tocynnau: £8 - £16
Gwybodaeth
Gan blethu straeon personol â dychymyg theatrig, mae Moments yn archwilio’r profiad canol oed allweddol o golli rhiant, tra hefyd yn dod yn rhiant ac yn bod yn rhiant i’r genhedlaeth nesaf.
Moments yw cynhyrchiad newydd Theatre Re. – y tîm oedd yn gyfrifol am The Nature of Forgetting a BIRTH. Mae hon yn sioe am greu sioe, gan ddatgelu’r hud y tu ôl i greu cynhyrchiad theatr. Trwy eu straeon personol o ddod yn rhieni a chyrraedd canol oed, mae’r cyfarwyddwr, y cyfansoddwr, y cynllunydd goleuo a’r cynllunydd sain i gyd ar y llwyfan, yn ein harwain trwy’r broses feddwl a chreu popeth sy’n digwydd wrth iddo ddigwydd. Mae’n dechrau fel sgwrs TED, yna mae’n syrthio i fyd perfformio gydag arddull nodweddiadol y cwmni o adrodd straeon corfforol hygyrch gyda cherddoriaeth yn greiddiol iddo.
‘Rhyfeddol... Darn hynod deimladwy a hardd’.The Scotsman
‘Gwych a syml o hardd... Clasur emosiynol i golled, rhianta a chof’.The Mancunion
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.