

Ysgolion a cholegau
Rydyn ni’n gweithio gyda dros 100 o ysgolion, colegau, mudiadau cymunedol ac elusennau bob blwyddyn i gynnig amrywiaeth eang o weithdai, perfformiadau a phrosiectau pwrpasol sy’n seiliedig ar y cwricwlwm i blant a phobl ifanc.
Gweithdai, sioeau ac arddangosfeydd i ysgolion cynradd
Anogwch eich myfyrwyr i fod yn greadigol gyda’n gweithdai, sioeau ac arddangosfeydd hwyliog ac ymarferol. O ddrama sy’n meithrin hyder i gerddoriaeth sy’n dathlu amrywiaeth o genres, bydd eich disgyblion yn archwilio ac yn cael eu hysbrydoli – i gyd gyda chymorth ein myfyrwyr talentog.
Mae ein holl weithgareddau wedi’u hanelu at fyfyrwyr yng Nghyfnod Allweddol 2 ac uwch.
Rydyn ni’n cynnig:
- gweithdai dan arweiniad ein myfyrwyr israddedig
- sesiynau holi ac ateb gyda’n perfformwyr cyn neu ar ôl y perfformiad (os yw eich grŵp myfyrwyr yn mynd i berfformiad mae’n rhaid talu amdano)
'Roedd y plant wedi cyffroi gymaint wrth gerdded yn ôl i'r ysgol. Roedden nhw’n teimlo bod y profiad fel amgueddfa’n dod yn fyw. Roedd mor ddiddorol ac addysgol, ond ar gyflymder perffaith lle’r oedd y plant yn gallu dilyn y stori.
Hoffwn ddiolch a rhannu ein gwerthfawrogiad. Roedd yn wirioneddol wych ac yn rhywbeth na fydd y plant byth yn ei anghofio.'St Mary the Virgin SchoolButetown, Caerdydd
Gweithdai, prosiectau creadigol, teithiau a sgyrsiau i ysgolion uwchradd a cholegau
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau i helpu pobl ifanc i fagu hyder, sgiliau cymdeithasol a chreadigrwydd, yn ogystal â dysgu sut beth yw astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I athrawon a staff ysgol
Dolenni defnyddiol

Ysgolion uwchradd a cholegau

Rhagor o wybodaeth am archebion ysgol



























