

Mae ein tymor newydd yn cynnwys talentau rhagorol, profiadau unigryw a pherfformiadau byw bythgofiadwy: gydag amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth Gymreig, cyfres o gyngherddau clasurol newydd, teyrnged jazz i John Coltrane, cynyrchiadau pypedwaith yn ogystal â’n dathliadau tymhorol nodedig.
- Cerddoriaeth Gymreig gan Catrin Finch, VRi a Sinfonia Cymru
- Cyfres o gyngherddau clasurol gydag artistiaid o fri rhyngwladol, gan gynnwys Viktoria Mullova, Alexander Gavrylyuk a Llŷr Williams
- Dathlu John Coltrane, 100 mlynedd ers ei eni
- Pum cynhyrchiad amrywiol gan Gwmni Richard Burton
- Pypedwaith cyfareddol i deuluoedd
- Cerddoriaeth a drama ar ymweliad o Gymru a thu hwnt
- Nadolig yn y Coleg
Cerddoriaeth Gymreig a chyfres cyngherddau clasurol
Mae’r tymor yn agor gyda pherfformiad cyfareddol gan y triawd gwerin VRï: Dylifwn/We Will Weave, gan osod y llwyfan ar gyfer archwiliad o gerddoriaeth Gymreig. Mae uchafbwyntiau’n cynnwys taith gerddorol ddofn a phersonol y delynores Catrin Finch, ‘Notes to Self’, cydweithrediad traws-ddiwylliannol Sinfonia Cymru gyda Sidiki Dembélé a noson na ddylid ei cholli gyda’r soprano enwog Rebecca Evans, yn arddangos caneuon gan gyfansoddwyr benywaidd nodedig o Gymru a thu hwnt.
Rydym hefyd yn lansio tair cyfres o gyngherddau clasurol cyffrous: Viktoria Mullova ac Alasdair Beatson yn perfformio sonatâu feiolin cyflawn Beethoven; ‘Cysylltiadau Baróc’ Llŷr Williams, yn archwilio cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif; a’n Cyfres Piano Rhyngwladol Steinway sy’n cynnwys pianyddion o’r radd flaenaf, gan ddechrau gydag Alexander Gavrylyuk a Samson Tsoy.
Mae ein Cyngherddau Awr Cinio yn cynnig mwy o gyfleoedd i fwynhau cerddoriaeth ragorol gan fand pres, ensembles llinynnau a chwythbrennau.
Dathlu Coltrane
Gall dilynwyr jazz ymuno â ni i ddathlu canmlwyddiant un o’r cerddorion a’r cyfansoddwyr jazz gorau, John Coltrane. Mae Gary Crosby OBE a’r sacsoffonydd ac enillydd gwobr MOBO, Denys Baptiste, yn arwain pedwarawd o sêr mewn teyrnged arbennig i Coltrane drwy berfformio ei albwm arloesol ‘A Love Supreme’.
Mae’r uwch-grŵp jazz modern Trio Grande, sy’n cynnwys y sacsoffonydd Will Vinson, y gitarydd Gilad Hekselman a’r basydd a’r drymiwr Nate Wood, yn perfformio ym mis Tachwedd, a hefyd bydd Pedwarawd Shai Maestro llawn gweledigaeth yn dychwelyd gyda cherddoriaeth o’i albwm newydd arloesol The Guesthouse.
Barod am y Nadolig
Mae’r danteithion Theatr Gerddorol poblogaidd ‘Nadolig ar Broadway’ yn dychwelyd fel rhan o ddathliad Nadolig yn y Coleg sydd hefyd yn cynnwys ein partneriaeth flynyddol ag Opera Cenedlaethol Cymru, gyda myfyrwyr yn perfformio ochr yn ochr â chwaraewyr a chantorion WNO yn y ‘Gala Opera’ a ‘Nadolig y Corws’ - y dechrau delfrydol i’ch Nadolig. I’n cynulleidfaoedd iau mae gennym lwyfaniad Nadoligaidd o’r stori fythol boblogaidd am wir gyfeillgarwch ‘Charlotte’s Web’.
Dramâu clasurol, drama gyfoes
O gynyrchiadau dramâu clasurol i ddrama gyfoes arloesol, mae tymor yr Hydref ein Cwmni Richard Burton yn dechrau gyda ‘Henry V’ gan Shakespeare ac ‘Emilia’ ffraeth gan Morgan Lloyd Malcolm, gan ganolbwyntio ar fywyd rhyfeddol y ffeminydd radical o’r ail ganrif ar bymtheg, Emilia Bassano, ym mis Hydref. Ym mis Rhagfyr ceir ffars Georges Feydeau ‘An Absolutely Turkey’, ac addasiad gan gyn Awdur Preswyl CBCDC, Roy Williams, ‘The Lonely Londoners’, sydd wedi’i seilio ar nofel arloesol Sam Selvon am genhedlaeth Windrush.
Perfformiadau addas i deuluoedd
Gall teuluoedd fwynhau cynyrchiadau pypedwaith newydd hudolus: y sioe gynnes ‘The Truth About Trees’ a’r sioe theatr cysgodion am deithiau hudolus, ‘‘Gaby Gulliver’s Travels’’, yn ogystal â dychweliad ein Little Concerts poblogaidd iawn.
Rydym hefyd yn croesawu dau gynhyrchiad a wnaed gan gwmnïau o Gymru, ar daith ledled Cymru, ‘Grip of Life’ gan Noni Lewis a ‘Pride & Prejud(ish)’ gan Black RAT Productions.
Fel bob amser, rydym yn cynnig digon o gyfleoedd i weld a chlywed ein myfyrwyr yn perfformio yng Nghyntedd Carne yn ein cyfres o Ddigwyddiadau Am Ddim, gan gynnwys yr AmserJazzTime enwog. Dewch i gael diod a mwynhau’r awyrgylch. Edrychwn ymlaen at eich gweld!
Mae tocynnau’n mynd ar werth 3 Awst 2026. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn archebu ewch i www.rwcmd.ac.uk/whats-on







