

Drama
The Lonely Londoners
Trosolwg
3 - 9 Rhag 7.45pm | Sad 5 ac Mer 9 Rhag 2pm
Lleoliad
Prisiau
£8-£16
Oedran
+14
Tocynnau: £8-£16
Wrthi’n llwytho...
Gwybodaeth
Yn seiliedig ar nofel arloesol Sam Selvon am genhedlaeth Windrush, mae addasiad Roy Williams yn ein tynnu i mewn i fywydau mewnfudwyr o India’r Gorllewin yn Llundain wedi’r rhyfel. Mae’r ddrama’n taflu goleuni treiddgar ar ddinas sy’n newid, perthynas grŵp bach o ffrindiau a’u syniad o gartref.
Gan Sam Selvon
Addaswyd gan Roy Williams
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.








