
Bydd y tymor haf hwn yn ganolfan o greadigrwydd, yn amrywio o gerddoriaeth newydd a phrofiadau sonig i theatr gerddorol ac opera. Byddwn yn croesawu’r Kanneh-Masons wrth iddynt wneud eu hymddangosiad siambr cyntaf yng Nghaerdydd, yn dathlu canmlwyddiant cawr y byd jazz Miles Davis, ac yn cyflwyno archwiliad cyffrous o lyfr caneuon cenedlaethol Cymru trwy lens gyfoes, gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC Tim Rhys-Evans a meistr cerddoriaeth draddodiadol Cymru Patrick Rimes. A pheidiwch â cholli:
- Gŵyl Awyrgylch: O brofiadau gemau fideo a sioeau cerdd un act i goncertos clasurol a llwybrau sain; mae gŵyl gerddoriaeth newydd CBCDC yn dychwelyd.
- NEWYDD ’26: Gyda gweithiau gan fenywod yn unig ceir dramâu gan awduron sy’n byw yng Nghymru, Azuka Oforka (‘The Women of Llanrumney’) a Rebecca Jade Hammond (‘NEWYDD ’23: Mad Magot’), ynghyd ag E V Crowe a Stef Smith ar gyfer gŵyl ysgrifennu newydd CBCDC.
- Guys and Dolls: Wedi’i gyfarwyddo gan Omar F Okai, mae Cwmni Richard Burton yn cyflwyno cynhyrchiad newydd o un o’r sioeau cerdd gorau erioed.
Cerddoriaeth: Gwyliau, gwerin a’r Kanneh-Masons
Mae ein tymor o wyliau yn agor gydag Awyrgylch (8 – 10 Mai), gwledd penwythnos o gerddoriaeth a sain newydd gan Gyfansoddwyr CBCDC sydd bob amser yn llwyddo i swyno a synnu gwrandawyr. Camwch i brofiad gêm fideo yn ‘Daisydreaming’… (Gwener 8 Mai) neu darganfyddwch gariad yn y mannau mwyaf annisgwyl yn y première cerddorol un act ‘Why Choose Love’ (Sadwrn 9 Mai). Byddwch yn barod am arswyd yn yr opera un act ‘The Mirror’ (Sadwrn 9 Mai), tra bod y sioe gyngerdd ddidwyll ‘Nothing to see here’ (Sul 10 Mai) yn annog gwrandawyr i gau eu llygaid ac ymgysylltu â’u synhwyrau eraill. Dros y penwythnos, ewch am dro drwy Barc Bute gyda thrac sain pwrpasol wedi’i guradu gan ein cyfansoddwyr yn ‘Soundwalk’ (trwy ap Echoes), neu darganfyddwch ofod sain sy’n canolbwyntio ar ailgylchu plastig drwy’r gosodiad ‘Plasticity’ (Gwener 8 Mai).
Bydd Gŵyl AmserJazzTime (21 – 24 Mai) eleni yn croesawu ymddangosiadau gwadd arbennig gan un o raddedigion CBCDC ac enwebai Gwobr Mercury Joe Webb (22 Mai), tra bod Jay Phelps (23 Mai) yn talu teyrnged i albwm eiconig Miles Davis ‘Kind of Blue’ ym mlwyddyn canmlwyddiant un o’r cerddorion jazz mwyaf dylanwadol erioed. Bydd ein cerddorion jazz yn cynnig pedwar diwrnod o berfformiadau am ddim ac yn agor yr ŵyl gyda Band Mawr poblogaidd CBCDC yn talu teyrnged i Big Phat Band Gordon Goodwin (Iau 21 Mai).
Gan ddisgrifio eu hunain fel chwarter Cymry, mae’r Kanneh-Masons (14 Meh) rhyfeddol yn rhoi eu hymddangosiad siambr cyntaf ym mhrifddinas Cymru mewn diweddglo arbennig i gyfres Steinway. Cyfle i wrando ar Sheku, Isata, Braimah a Jeneba, sydd wedi datblygu i fod yn artistiaid o garisma a sgiliau eithriadol, yn chwarae campweithiau cerddoriaeth siambr.
Bydd Ysgol Opera David Seligman y Coleg yn eich cludo i ynys hudolus yn Alcina (26 – 30 Meh) gyda rhai o ariâu enwocaf Handel. Bydd grymoedd cyfunol Cerddorfa WNO a Cherddorfa Symffoni CBCDC (25 Meh) yn perfformio gweithiau nodedig gan Strauss a Rachmaninov, fel rhan o bartneriaeth barhaus y Coleg ag Opera Cenedlaethol Cymru.
Gyda band o rai o gerddorion gorau Cymru yn cyfeilio, bydd Côr CBCDC yn dathlu cyfoeth caneuon gwerin Cymru gyda threfniannau newydd gan Tim Rhys-Evans a’r ffidlwr gwerin Patrick Rimes yn Caneuon Cenedl (3 Gorffennaf).
Drama newydd, Theatr a Dawns
Bydd Cwmni Richard Burton yn cyflwyno ei ŵyl flynyddol o ysgrifennu newydd NEWYDD '26 (5 - 12 Meh) gyda gweithiau gan ddramodwyr benywaidd yn unig. Mae Feral Threads (5 – 10 Meh) gan Rebecca Jade Hammond yn archwilio’r gwrthdrawiad rhwng gwrywdod gwenwynig a chanfyddiadau o fenyweidd-dra. Archwilir breuder bywyd yn Van Man (5 – 10 Meh) gan E V Crowe, ac mae XL Bully (6 – 12 Meh) yn ddrama llawn tyndra, doniol a phryfoclyd am deimlo dan fygythiad gan Stef Smith. Mewn cydweithrediad â Theatr Sherman, bydd Cwmni Richard Burton yn cyflwyno’r ddrama a ysgogir gan atgofion That Last Summer (6 – 12 Meh) gan yr awdur Cymreig Azuka Oforka. Bydd ‘NEWYDD ’26’ yn symud i Theatr New Diorama yn Llundain (17 – 26 Mehefin).
Bydd ein perfformwyr theatr gerdd yn dychwelyd i Theatr Sherman ar gyfer cynhyrchiad newydd o’r clasur rom-com, Guys and Dolls (1 – 6 Gorff), wedi’i gyfarwyddo gan sylfaenydd Gwobrau Theatr Black British Omar F Okai.
Bydd dawnswyr ifanc rhyfeddol VERVE (1 Mai), cwmni teithiol rhyngwladol Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd, a’r brodyr Matsena sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru a’r dramodydd Cymreig clodwiw Rhys Warrington yn cyflwyno eu cynhyrchiad newydd pwerus BOY-ISH (15-16 Meh).
Bydd adran pypedau CBCDC yn cyflwyno byd hudolus ffilmiau mud yn Lights, Puppets…Action!’ (4-5 Gorff) a fydd yn cynnwys adrodd straeon gweledol, pypedau, cerddoriaeth fyw a chapsiynau creadigol. Wedi’i greu ar gyfer plant 7–9 oed, bydd y perfformiad yn hygyrch i gynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw.
Mae tocynnau ar werth ddydd Iau 2 Ebr. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i rwcmd.ac.uk/cy/whats-on
Bydd tocynnau i aelodau Cyswllt ar werth ddydd Llun 30 Maw. I ddarganfod mwy am sut i ddod yn aelod o Cyswllt, ewch i rwcmd.ac.uk/cy/support-us








