Neidio i’r prif gynnwys

Archebu ar gyfer grŵp neu ysgol

Rydym yma i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi ddod â pharti o deg neu fwy o bobl i CBCDC.

Mae manteision grŵp yn cynnwys

  • Disgownt ar docynnau ar gyfer rhai sioeau CBCDC
    - 10 neu fwy o bobl = 10% o ostyngiad
    - 15 neu fwy o bobl = 15% o ostyngiad
    - 20 neu fwy o bobl = 20% o ostyngiad
  • Telerau talu hyblyg – archebwch nawr, talwch wedyn (yn amodol ar delerau ac amodau)
  • Taflenni a phosteri am ddim i’ch helpu i hyrwyddo’r sioe i’ch grŵp (pan fo hynny’n bosibl)

Grwpiau ysgol ac addysgol

Manteisiwch ar ein tocynnau rhatach ar gyfer grwpiau ysgol ac addysgol:

  • Tocynnau £3 ar gyfer Cyngherddau Amser Cinio
  • Tocynnau pris gostyngol ar gyfer perfformiad pypedau yn ystod yr haf a’n sioe Nadolig
  • Tocynnau pris gostyngol ar gyfer perfformiadau dethol Cwmni Richard Burton.
  • Ar gyfer perfformiadau dethol, 1 tocyn am ddim i staff am bob 10 myfyriwr



Adran archwilio

Beth sydd ymlaen