

Canolfannau partneriaeth rhanbarthol
Rydyn ni’n datblygu ein gwaith gyda phobl ifanc dan 18 oed yn barhaus i sicrhau ein bod yn cynnig y ffordd orau i bobl ifanc ledled Cymru archwilio’r celfyddydau perfformio a chreadigol, a’u gyrfaoedd cysylltiedig, mewn amgylchedd ysbrydoledig.
Rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer talent ifanc
Ledled Cymru, mae gwaith rhagorol eisoes yn digwydd mewn ysgolion, theatrau ieuenctid, gwasanaethau cerdd a lleoliadau cymunedol. Ein rôl ni yw cefnogi a gwella hyn a dod â phartneriaid at ei gilydd. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n agor canolfannau partneriaeth newydd ledled Cymru a bydd hyn sicrhau ein bod yn rhan ganolog o rwydwaith hanfodol o gefnogaeth a chyfleoedd, sy’n estyn allan ac yn ymgysylltu â phobl ifanc lle bynnag y maen nhw yn y wlad. Mae hyn yn golygu adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, gan ei helpu i dyfu.
Bydd ysgolion, colegau addysg bellach a sefydliadau cymunedol yn cael eu cysylltu drwy dair canolfan ranbarthol, gan weithio gyda’i gilydd i greu mwy o gyfleoedd ym maes cerddoriaeth a drama. Bydd pob Canolfan yn cael ei chefnogi gan gydlynydd lleol, a fydd yn helpu i gysylltu pobl ifanc â gweithgareddau lleol a chyfleoedd cenedlaethol.
Bydd ein gwaith wedi’i leoli ar draws:
- Gogledd Cymru
- Canolbarth Cymru
- De Cymru
Bydd pob Canolfan yn dod â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru at ei gilydd gyda lleoliadau lleol, colegau, theatrau ieuenctid, gwasanaethau cerdd ac ysgolion.
Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn golygu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan a datblygu, p’un ai a ydyn nhw’n dechrau arni neu eisoes yn datblygu eu sgiliau.
Dolenni defnyddiol

Ein partneriaid

Llwybr Talent Cenedlaethol




