
CBCDC yn derbyn cyllid NEWYDD sylweddol ar gyfer ei ŵyl ysgrifennu newydd flynyddol arloesol
Darllen mwy

Newyddion
Cymrodoriaethau'n adlewyrchu pwysigrwydd bywyd diwylliannol bywiog i’r gymdeithas yng Nghymru, ac yn dathlu dyfnder ac ehangder arweinyddiaeth a chreadigrwydd, ymchwil ac arloesedd Cymru, ac yn cydnabod rhagoriaeth a phwysigrwydd y gwaith hwn a'r cyfraniadau at fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Cymrodyr y Gymdeithas yn dwyn ynghyd rai o'r arweinwyr a'r academyddion mwyaf nodedig yn eu meysydd o bob cwr o'r byd, wedi'u huno yn eu hawydd i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi’r gymdeithas yng Nghymru.
'Mae'n anrhydedd enfawr cael derbyn Cymrodoriaeth gan Academi Genedlaethol Cymru, ochr yn ochr â chymuned mor nodedig ac amrywiol o arweinwyr o bob cwr o'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau.
Mae ymrwymiad y Gymdeithas i hybu gwybodaeth, arloesedd a chreadigrwydd, ac i gydnabod pwysigrwydd hanfodol bywyd diwylliannol bywiog i bawb, yn agos at fy nghalon, ac yn adlewyrchu'r gwaith a wnawn bob dydd yn CBCDC fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, gan feithrin rhagoriaeth artistig, rhannu'r celfyddydau a chyd-greu gyda'n cymunedau ledled Cymru.'Helena GauntPrifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cymrawd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Fel Academi Genedlaethol Cymru, nod y Gymdeithas Ddysgedig yw hybu gwybodaeth a phŵer ymchwil ac arloesi er budd economi a chymdeithas Cymru.