Neidio i’r prif gynnwys

Ysgolion uwchradd a cholegau

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth cyffrous o deithiau tywys, sgyrsiau, gweithdai, prosiectau creadigol ac arddangosfeydd ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau – pob un â’r nod o ysbrydoli myfyrwyr gyda chelf a cherddoriaeth. 

Rydyn ni hefyd yn darparu adnoddau addysg i athrawon sy’n cynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r cast a’r tîm creadigol o’n cynyrchiadau diweddar. 

Dewch i glywed sgyrsiau, teithiau ac arddangosfeydd CBCDC

Helpwch eich myfyrwyr i gael blas ar fywyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n ymweld â ni yng Nghaerdydd, yn cwrdd â ni ar-lein neu’n trefnu i ni ddod i’ch ysgol, mae llawer o ffyrdd i’ch myfyrwyr archwilio ein cyrsiau cerddoriaeth, drama a chefn llwyfan. 

Rydyn ni’n cynnig: 

  • Teithiau o amgylch campws Heol y Gogledd neu weithdy Llanisien 
  • Sgyrsiau gan aelodau blaenllaw o staff a myfyrwyr presennol, ‘Sut beth yw astudio mewn conservatoire’ 
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymarfer neu berfformiad amser cinio  
  • Cyfleoedd i fynd i arddangosfa am ddim 
  • Sesiynau Holi ac Ateb ar-lein i’ch myfyrwyr 
  • Ymweliadau â’ch ysgol neu goleg i ddarparu amrywiaeth o sgyrsiau a chymryd rhan mewn digwyddiadau yno (yn dibynnu ar le rydych chi wedi’ch lleoli) 

Gweithdai pwrpasol a phrosiectau creadigol

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithdai i ysgolion uwchradd a cholegau, wedi’u teilwra gymaint â phosibl i anghenion grwpiau penodol o ddisgyblion. Gallwn ni ymweld â’ch ysgol neu’ch coleg (yn dibynnu ar le rydych chi wedi’ch lleoli), neu gallwch chi ymweld â ni.  

Mewn gweithdai drama, ein nod yw meithrin hunanhyder, sgiliau cymdeithasol a chreadigrwydd pobl ifanc mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae ein holl staff yn actorion, cyfarwyddwyr, dylunwyr proffesiynol neu’n arbenigwyr yn y diwydiant. 

Yn ein gweithdai cerddoriaeth, rydyn ni’n arddangos amrywiaeth o arddulliau o gerddoriaeth glasurol i jazz a theatr gerdd. Mae’r rhain yn aml yn cynnwys ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig talentog sy’n datblygu sgiliau allgymorth proffesiynol fel rhan o’u hastudiaethau. 

Gallwch chi ofyn am y canlynol: 

  • Bwydlen gweithdy drama, cerddoriaeth neu gefn llwyfan 

Dyddiau agored

Mae ein diwrnodau agored yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y Coleg a mwynhau awyrgylch ein prif adeilad, sydd nid yn unig yn conservatoire cerdd a drama blaenllaw ond hefyd yn ganolfan celfyddydau fywiog sy’n cynnal 500 o berfformiadau cyhoeddus y flwyddyn. 

Dewch i grwydro ein campws, cwrdd â’n staff a’n myfyrwyr cyfeillgar, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yn ninas fywiog Caerdydd. 

Edrychwch ar ein diwrnodau agored sydd ar y gweill 

'Diolch o galon i chi gennyn ni. Cawson ni, y staff a’r myfyrwyr, ein syfrdanu gan y diwrnod.
Roedd y plant a ni fel staff yn siarad am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am weddill y penwythnos – a hyd yn oed heddiw pan yn ôl yn yr ysgol, mae’r plant yn dal i ofyn cwestiynau i mi! [...] Roedd pob eiliad yn wych.'
Pete's Grammar SchoolCheltenham

Adnoddau addysg i athrawon

Mae ein pecynnau addysgol ar gyfer athrawon yn cynnwys cyfweliadau unigryw gydag aelodau allweddol o gast a thîm creadigol ein cynhyrchiadau a’n prosiectau diweddar.  

Mae cynnwys recordiadau unigryw o’r ddrama yn golygu bod eich myfyrwyr yn gallu profi perfformiadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar-lein am y tro cyntaf.  

Mae’r myfyrwyr dawnus sy'n rhan o'r cynhyrchiadau hyn yn rhannu eu canfyddiadau a'u safbwyntiau am y broses greadigol, y broses o ddatblygu eu cymeriadau, a'u perfformiadau mewn cyfweliad estynedig. 

Mae cwestiynau’r cyfweliadau wedi cael eu llunio’n ofalus yn unol â manyleb TGAU Drama CBAC, ac yn sicrhau profiad perthnasol a chyfoethog i ddisgyblion ac athrawon. 

Dolenni defnyddiol


Adran archwilio