

CBCDC Agored
Trwy berfformiadau, prosiectau creadigol, gweithdai a phartneriaethau, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Agored (CBCDC Agored) yn dod â rhaglen gyhoeddus y Coleg, ymgysylltu â’r gymuned a gweithio gyda phobl ifanc at ei gilydd i greu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau perfformio, eu profi a datblygu talent ynddyn nhw.
Ehangu mynediad at y celfyddydau
Gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, nod CBCDC Agored yw ehangu mynediad at brofiadau creadigol, cefnogi’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a thechnegwyr, a chryfhau bywyd diwylliannol Cymru.
Mae CBCDC Agored yn dod â rhaglen perfformiadau cyhoeddus y Coleg, ymgysylltu â’r gymuned a gweithio gyda phobl ifanc at ei gilydd i helpu i wneud y canlynol:
- creu cyfleoedd ym maes cerddoriaeth, drama a’r celfyddydau cynhyrchu
- cefnogi pobl ifanc dalentog i ddatblygu eu sgiliau
- cysylltu gweithgarwch lleol â llwybrau cynnydd clir i hyfforddiant proffesiynol
- cryfhau dyfodol y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru
Adeiladu ar bartneriaethau ledled Cymru
Mae CBCDC Agored yn adeiladu ar y gwaith pwysig sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru. Mae ysgolion, gwasanaethau cerddoriaeth, sefydliadau celfyddydau ieuenctid a chwmnïau cenedlaethol eisoes yn cefnogi datblygiad creadigol pobl ifanc ac yn sicrhau bod y celfyddydau ar gael i grwpiau amrywiol. Mae cydweithio wrth galon y fenter. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n datblygu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai, perfformiadau, diwrnodau darganfod a phrofiadau hyfforddi ledled Cymru.
Mae CBCDC Agored i bawb

Ein cynnig cyn Coleg

Ysgolion a cholegau

Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned

Canolfannau partneriaeth rhanbarthol

Llwybr Talent Cenedlaethol



















