

Newyddion
CBCDC yn derbyn cyllid NEWYDD sylweddol ar gyfer ei ŵyl ysgrifennu newydd flynyddol arloesol
Cyfrannu at y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol
NEWYDD ‘26: 5 - 12 Mehefin, CBCDC a Theatr Sherman, Caerdydd
17 - 26 Mehefin, Theatr New Diorama, Llundain
Ers dros ddegawd mae gŵyl NEWYDD flaenllaw CBCDC wedi ymgorffori uchelgais strategol y Coleg fel conservatoire cenedlaethol Cymru, gan ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd o’r radd flaenaf i’w fyfyrwyr, tra’n cyfrannu at y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r prosiect hynod uchelgeisiol hwn, sydd bellach wedi’i gefnogi gan addewid trawsnewidiol o bron i £500,000 gan gwpl dyngarol sydd wedi gofyn am beidio â chael eu henwi, yn dod â rhai o gyfarwyddwyr ac awduron gorau’r DU ynghyd â’i Gwmni Richard Burton, sy’n cynnwys pob un o’r 36 actor sy’n graddio, ei gynllunwyr a’i reolwyr llwyfan.
Gan gael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd a Theatr New Diorama yn Llundain ym mis Mehefin, mae’r gweithiau newydd hyn yn cyrraedd cynulleidfaoedd cenedlaethol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan roi profiad byd go iawn i’r myfyrwyr, a dod â theatr newydd uchelgeisiol i’r llwyfan.
'Dyma fy mlwyddyn gyntaf o NEWYDD felly rwy’n hynod gyffous i weld beth y gall ei wneud. Nid oes unrhyw gomisiynau ysgol ddrama arall yn gweithio ar y raddfa hon gydag awduron a chyfarwyddwyr clodwiw o’r fath amlygrwydd.
Mae’r cyllid newydd hael hwn yn caniatáu i ni barhau i gefnogi’r dalent sy’n dod i’r amlwg hon, gan baru’r actorion ag artistiaid sefydledig a all weithredu fel mentoriaid.
Mae ysgrifennu newydd wastad wedi bod yn ganolog i hyfforddiant drama’r Coleg, ac mae hyn yn cynnwys ein menter Lleisiau NEWYDD sy’n galluogi actorion â lleisiau unigol cryf i fod yr un mor hyderus wrth greu eu gwaith eu hunain ag y maent wrth weithio gyda repertoire clasurol.
Rydym yn arbennig o falch o fod yn arddangos gwneuthurwyr theatr y dyfodol, eleni gyda phedwar Llais Newydd, dan arweiniad a gyda chefnogaeth y Coleg.’Ali de SouzaPennaeth Drama CBCDC
Gan arwain y ffordd mewn comisiynu gwaith newydd ar gyfer ysgolion drama, mae model â thâl llawn y Coleg yn rhoi cyfle prin i awduron a chyfarwyddwyr ddatblygu gwaith newydd yn iawn, gydag amser rihyrsio llawn, cyllideb cynllunio, cymorth technegol ac arbenigedd mewnol.
‘Roedden ni’n awyddus iawn i gefnogi ysgrifennu NEWYDD yn CBCDC oherwydd ei ymrwymiad i waith gwreiddiol a rhoi cyfle i fyfyrwyr o bob disgyblaeth gydweithio â dramodwyr blaenllaw a dysgu gan y gorau.
Gallwn weld sut mae myfyrwyr rhagorol CBCDC yn elwa’n aruthrol o weithio yn y ffordd hon, ac roedd yn teimlo’n iawn i gefnogi’r fenter wych ac unigryw hon.’Rhoddwyr ar gyfer gŵyl NEWYDD
Safbwyntiau ffres, yn cydio yn y sefyllfa ddiwylliannol
Fel bob amser, mae dramâu eleni yn ymateb yn uniongyrchol i’r sefyllfa ddiwylliannol, gan archwilio themâu breuder bywyd, ofn, cyfrifoldeb ac iachawdwriaeth, gan ddod â rhestr eithriadol o dalent greadigol ynghyd:
- ‘Van Man’ gan E.V. Crowe, cyfarwyddir gan Stewart Laing
- ‘Feral Threads’ gan Rebecca Jade Hammond, cyfarwyddir gan Patricia Logue
- ‘XL Bully’ gan Stef Smith, cyfarwyddir gan Rob Watt
- ‘That Last Summer’ gan Azuka Oforka, cyfarwyddir gan Lee Lyford, mewn cydweithrediad â Theatr Sherman
Dros ei dair blynedd ar ddeg, mae NEWYDD wedi dangos dros 50 o ddramâu newydd a heriol am y tro cyntaf ac wedi cefnogi artistiaid sydd bellach yn cael effaith sylweddol ar draws diwydiant theatr y DU, gan helpu i lunio dyfodol theatr. Mae llawer o’r dramâu wedi mynd ymlaen i gael bywyd eu hunain, gan gynnwys ‘Pomona’ gan Alasdair McDowell, ‘Growth’ gan Luke Norris, ‘Blister’ gan Laura Lomas, ‘Albatross’ gan Isley Lynn, ‘Falling Falling Falling’ a ‘White Sky’ gan Simon Longman, a nifer o rai eraill.
‘Mae 2026 yn nodi unfed flwyddyn ar ddeg Theatr Sherman yn gweithio mewn partneriaeth â CBCDC ar ŵyl NEWYDD, ac rydym mor falch o’r bartneriaeth honno.
Bob blwyddyn rydym yn comisiynu dramodydd o Gymru, neu sydd wedi’i leoli yng Nghymru, i ysgrifennu drama newydd ar gyfer yr ŵyl; eleni dewiswyd yr hynod ddawnus Azuka Oforka, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ei gwaith diweddaraf, ‘That Last Summer’, yn ogystal ag ‘XL Bully’ gan Stef Smith ar ein llwyfannau ym mis Mehefin eleni.’Julia BarryPrif Weithredwr Theatr Sherman
Hyfforddi actorion fel pobl greadigol
Gan ganolbwyntio ar hyfforddi actorion fel pobl greadigol ac annog dramodwyr y dyfodol, fel rhan o Lleisiau NEWYDD mae pedwar myfyriwr blwyddyn olaf yn dod â’u gwaith eu hunain i’r ŵyl gyda darlleniadau wedi’u rihyrsio gan y cast, sy’n myfyrio ar bryderon eu cenhedlaeth.
Mae NEWYDD hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt rwydweithio a sefydlu perthynas â rhai o awduron a chyfarwyddwyr blaenllaw’r DU. Ymhlith y nifer o raddedigion sydd wedi mynd ymlaen i weithio gyda gweithwyr proffesiynol NEWYDD, y mae Isabel Thom a gafodd ei chastio yn eu rôl broffesiynol gyntaf fel Joan ar gyfer ffilm ddadleuol Charlie Josephine ‘I, Joan’ yn y Globe, ac ym mlwyddyn gyntaf NEWYDD aeth actores ‘Pomona’ Annes Elwy ymlaen i weithio gyda’i chyfarwyddwr Ned Bennett yn ‘Yerma’.
Balance: 4-9 Mehefin, CBCDC, 17 - 19 Mehefin, Hoxton Docks, Llundain
Yn dilyn NEWYDD ’26 bydd arddangosfa Cynllunio ar gyfer Perfformio y Coleg, ‘Balance’, yn agor yn Oriel Linbury 4-9 Mehefin, cyn symud i Hoxton Docks Llundain o 17-19 Mehefin.
Gan arddangos gwaith cynllunwyr sy’n graddio a myfyrwyr rheoli llwyfan, mae’r arddangosfa flynyddol hon yn dwyn ynghyd waith yr ymarferydd cynllunio creadigol unigol a’r artist cydweithredol.








