Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

PDC i arwain Clwstwr Diwydiannau Creadigol mawr yr AHRC i drawsnewid perfformiadau byw a thechnoleg greadigol ledled Cymru

Bydd Prifysgol De Cymru yn arwain ‘Amgen’, rhaglen arloesi sylweddol pum mlynedd sy'n dod â phrifysgolion a sefydliadau creadigol ynghyd i yrru twf ar draws diwydiannau creadigol Cymru.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 25/11/2026

Bydd Prifysgol De Cymru yn arwain ‘Amgen’, rhaglen arloesi sylweddol pum mlynedd sy'n dod â phrifysgolion a sefydliadau creadigol ynghyd i yrru twf ar draws diwydiannau creadigol Cymru.

Bydd Amgen yn archwilio sut y gellir cyfuno technoleg greadigol â pherfformiadau byw i ddatblygu cynnyrch, prosesau cynhyrchu a phrofiadau newydd i gynulleidfaoedd.

Bydd Amgen: Perfformio Byw a Thechnoleg Creadigol yn rhedeg o 2027 i 2032, ac yn cael ei ariannu drwy Raglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Ategir grant o £6.75 miliwn oddi wrth yr AHRC gan gyd-fuddsoddiad o £7.35 miliwn gan bartneriaid, sy'n rhoi cyfanswm gwerth £14.1 miliwn i'r rhaglen.

Bydd Amgen yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan yr Athro Lisa Lewis, Deon Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi, a Richard Hurford, Cyd-Arweinydd y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC.

Bydd y prosiect uchelgeisiol yn dod â phrifysgolion a sefydliadau diwylliannol a chreadigol blaenllaw o bob cwr o Gymru ynghyd i gefnogi Ymchwil a Datblygu, arloesedd a thwf economaidd cynaliadwy mewn perfformio byw.

Ymhlith y partneriaid mae Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, CULTVR, Frân Wen, Arad Goch, a Theatr Cymru.

'Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad hanfodol i'r sector perfformio byw yng Nghymru, gan alluogi effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i ganolfannau trefol. Bydd yn sicrhau cysylltiadau gwell rhwng pobl a lleoedd creadigol, wrth wella cyfranogiad a chynrychiolaeth.'
Lisa LewisDeon Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi
'Mae Cymru'n cynnig amgylchedd amlieithog unigryw ar gyfer datblygu model newydd o arloesi creadigol.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael effaith ddofn, gan gryfhau perfformio byw a thechnoleg creadigol ar draws ein cymunedau diwylliannol mewn ffordd deg a chynhwysol. Mae Prifysgol De Cymru yn falch iawn o arwain y consortiwm hwn a chefnogi twf cynaliadwy sector bywiog a gwydn.'
Richard HurfordCyd-Arweinydd y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC
'Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o fod yn rhan o Amgen, partneriaeth feiddgar ac uchelgeisiol sydd â'r potensial i drawsnewid y ffordd y mae arloesi creadigol yn digwydd ledled Cymru.

Drwy ddod â pherfformiad byw, technoleg ac ymchwil ynghyd, mae'n rhoi creadigrwydd, cydweithio a chysylltiad wrth wraidd dyfodol Cymru.'
Emma EvansPennaeth y Celfyddydau ac Ymgysylltu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
'Rydym yn hynod gyffrous bod PDC wedi sicrhau'r cyllid hwn, sy'n ymroddedig i ddatblygu a hyrwyddo perfformio byw yng Nghymru. Mae'n dyst i waith partneriaeth flaengar ac mae ei angen mawr ar gyfer y celfyddydau perfformio yng Nghymru wrth inni lywio tirwedd gymhleth y byd modern, wrth barhau i ymdrechu am ragoriaeth, arloesedd a thwf ar gyfer y dyfodol.

Gyda chynlluniau partneriaeth genedlaethol fel Stiwdio Clwyd a Craidd yn rhan allweddol o brosiect Amgen, mae Theatr Clwyd yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni mwy ar gyfer celfyddydau byw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.
Liam Evans-FordPrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd

Wrth wraidd Amgen bydd rhaglen arloesi bwrpasol, fydd yn galluogi sefydliadau creadigol i ddatblygu a phrofi syniadau newydd sy'n cyfuno perfformiad a thechnoleg.

Wrth weithio ledled Cymru, bydd y rhaglen yn meithrin ecosystem yn seiliedig ar gryfderau creadigol pobl a lleoliadau penodol a’u troi’n fannau arbrofi ar gyfer prosesau cynhyrchu phrofiadau newydd i gynulleidfaoedd, gan roi cyfleoedd i sefydliadau ymgymryd ag Ymchwil a Datblygu sy'n canoli ar lwybrau clir i'r farchnad.

Uchelgais ganolog yw sicrhau nad yw daearyddiaeth yn rhwystr i gyfranogiad, cynhyrchiant na thwf o fewn y diwydiannau creadigol.

Drwy ddosbarthu cyllid a chefnogaeth ar draws y sector, bydd Amgen yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol mewn buddsoddiad creadigol ac ysgogi twf economaidd ledled Cymru. Bydd yn cysylltu cymunedau creadigol gwledig a threfol ac yn darparu model ar gyfer datblygu clystyrau creadigol y tu hwnt i ddinasoedd mawr.

Bydd y rhaglen hefyd yn archwilio sut y gall arloesi ym maes perfformio byw a thechnoleg creadigol gynhyrchu buddion y tu hwnt i'r diwydiannau creadigol, gan greu cyfleoedd i wybodaeth, technoleg ac arbenigedd effeithio ar sectorau eraill.

Erbyn 2032, mae Amgen yn anelu at gynyddu gallu Ymchwil a Datblygu, cyflogaeth, buddsoddiad a chysylltedd ar draws sectorau perfformio byw a thechnoleg creadigol Cymru, tra’n rhoi mynediad i gynulleidfaoedd at brofiadau mwy blaengar.

Mae hefyd yn anelu at sefydlu model ar gyfer arloesedd creadigol sy'n dangos sut y gall buddsoddiad ac Ymchwil a Datblygu gynhyrchu twf y tu hwnt i ganolfannau trefol mawr Prydain.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Negeseuon newyddion eraill