Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

CBCDC yn lansio rhaglen PhD sy’n canolbwyntio ar effaith ddiwylliannol a chymdeithasol arloesol

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio rhaglen PhD newydd sy’n cynnig cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig ddatblygu gwaith doethuriaeth rhyngddisgyblaethol seiliedig ar ymarfer, sydd ag effaith ddiwylliannol a chymdeithasol sylweddol.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 23/06/2026

Cysylltu ymchwil â diwydiannau a chymunedau creadigol

Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, mae CBCDC yn cyfuno arbenigedd seiliedig ar ymarfer o’r radd flaenaf yn y celfyddydau â rhwydwaith cryf o bartneriaethau diwydiant a chymunedol. Bydd myfyrwyr PhD yn elwa o weithio yn yr amgylchedd amlddisgyblaethol hwn sy’n wynebu allan, gan eu galluogi i ymestyn eu gwaith y tu hwnt i gampws y Coleg ac ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector proffesiynol.

Trwy bartneriaethau â’r diwydiant sydd gan y Coleg gyda sefydliadau sy’n cynnwys BBC Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Bad Wolf, Theatr Sherman, Theatr Clwyd a Thŷ Cerdd, yn ogystal â sefydliadau cymunedol megis Côr Forget-Me-Not, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Race Council Cymru, gall myfyrwyr doethuriaeth ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector proffesiynol, gan integreiddio ymchwil, ymarfer creadigol ac effaith yn y byd go iawn.

Canolfan ddeinamig ar gyfer ymchwil doethuriaeth sy’n wynebu allan

Bydd campws mwyaf newydd CBCDC, sef yr Hen Lyfrgell hanesyddol yng nghanol Caerdydd, yn gweithredu fel canolfan ddeinamig ar gyfer gwaith doethuriaeth sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau lleol. Mae’r Hen Lyfrgell eisoes yn gartref i lawer o brosiectau cymunedol y Coleg, ac mae’n darparu lle unigryw ar gyfer partneriaethau a phreswylfeydd CBCDC.

Ynghyd â strategaeth CBCDC Agored y Coleg, bydd hyn yn cefnogi ymchwilwyr i archwilio sut mae’r celfyddydau’n llunio cymunedau ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol, economïau a chyd-destunau diwylliannol, gan ganolbwyntio ymchwil doethuriaeth fel grym gweithredol mewn bywyd diwylliannol.

‘Ein huchelgais yn CBCDC yw creu amgylchedd ymchwil a menter integredig sy’n meithrin ac yn grymuso gwaith ac arloesedd newydd ar gyfer y celfyddydau. 

Mae ein rhaglen PhD yn hyrwyddo gwaith artistig newydd ac arfer proffesiynol ar draws ein disgyblaethau, wedi’i gefnogi gan dechnolegau integredig a’n ffocws ar gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Drwy waith llawn menter dan arweiniad myfyrwyr a graddedigion wedi’i wreiddio ar draws ein rhaglenni gradd, rydym yn ystyried arloesedd yn ysgogwr rhagoriaeth ond hefyd yn ffordd bwerus o gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau newydd.’

  
Yr Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Adnoddau ymchwil unigryw

Bydd gan fyfyrwyr doethuriaeth fynediad at amrywiaeth o gasgliadau archifol prin y gofalir amdanynt gan CBCDC, gan gynnwys Casgliad Rara Opera Foyle (casgliad helaeth o sgoriau cynnar, llawysgrifau gwreiddiol, cynlluniau gwisgoedd, memorabilia, a gweithiau celf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg), casgliad Cymdeithas Ddrama Cymru (y casgliad benthyca mwyaf o sgriptiau Saesneg yn y DU), casgliadau arbenigol o weithiau cyfansoddwyr (gan gynnwys Mervyn Burtch, Alun Hoddinott, Graham Whetham, Mansel Thomas, a David Harries), ac argraffiadau prin o waith Shakespeare o’r ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r ugeinfed ganrif. Mae hefyd yn cynnwys mynediad at ffolios o waith Paul Brown a Pamela Howard, yn ddigidol a ffisegol, dau o gynllunwyr enwocaf y DU.

Am ragor o wybodaeth am astudio ar gyfer PhD yn CBCDC, cysylltwch â: Dr Ella Hawkins (ella.hawkins@rwcmd.ac.uk) a Dr James Lea (james.lea@rwcmd.ac.uk)

Negeseuon newyddion eraill