

Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned
Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ein gweledigaeth yw newid bywydau a dod â phobl at ei gilydd drwy gelf a cherddoriaeth.
Mae meithrin perthnasoedd cryfach â chymunedau ledled Cymru yn ganolog i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Gan ddefnyddio doniau a chreadigrwydd ein myfyrwyr, rydyn ni’n wastad yn datblygu prosiectau newydd gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol.
Rydyn ni eisiau dathlu’r holl ffyrdd rydyn ni’n wahanol a chreu amgylchedd lle mae pawb yn gallu ffynnu. Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am y rhwystrau i astudio neu fynychu perfformiadau byw a sut y gallwn ni weithio i gael gwared arnyn nhw.
Mae cymaint o ffyrdd i gymunedau brofi popeth sydd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i’w gynnig.
Ymweliadau â’r campws
Mae grwpiau cymunedol yn gallu trefnu teithiau tywys o amgylch ein campws a chael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar fywyd mewn conservatoire cerdd a drama. Rydyn ni hefyd yn cefnogi darpar fyfyrwyr a sefydliadau addysgol i wneud Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn fan astudio, gan gefnogi darpar fyfyrwyr o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli i ddod o hyd i’w lle yma yn y Coleg.
I ofyn am daith, cysylltwch â Guy O’Donnell, ein Partner Ymgysylltu â Chymunedau.
Detholiad o’n prosiectau cymunedol a’n cyfnodau preswyl
Mae nifer o’r cyfleoedd hyn yn rhan o’n Rhaglen Breswyl Woolcott, sy’n bosibl oherwydd cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Anthony G Woolcott..
Dolenni defnyddiol

Archwiliwch ein diwrnodau offerynnau a’n gweithdai cynhyrchu

Ein cynnig i ysgolion a cholegau






