

Bydd Lucy yn ymuno â’r Coleg fel Is-lywydd, fel eiriolwr, cynghorydd dibynadwy a hyrwyddwr pwerus dros ein huchelgeisiau. Mae’n ymuno ag Is-lywyddion eraill y Coleg sy’n cynnwys Syr Anthony Hopkins, Michael Sheen, Syr Bryn Terfel a’r AthroUzo Iwobi.
Mae gan Lucy gyfoeth o brofiad o ganlyniad i yrfa hir a nodedig ym maes datblygu’r celfyddydau ar lefel cyfarwyddwr i rai o sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol y DU, gan gynnwys y National Theatre yn Llundain, Opera Cenedlaethol Cymru ac Artes Mundi.
Roedd y profiad hwn yn amlwg yn ystod ei 13 o flynyddoedd yn y Coleg, pan drawsnewidiodd ein gwaith codi arian, cryfhau ac ehangu ein cymuned o gefnogwyr, arwain ymgyrchoedd a digwyddiadau mawr, a sicrhau buddsoddiad allweddol yn ailddatblygiad yr Hen Lyfrgell.
Mae ei phenodiad yn Is-lywydd yn cydnabod nid yn unig ei chyfraniad proffesiynol eithriadol, ond hefyd y cysylltiad dwfn a pharhaol sydd ganddi â’n cymuned.
‘Mae’n anrhydedd wirioneddol i mi ymuno â grŵp mor amlwg o Is-lywyddion, yr wyf yn eu hedmygu’n fawr am eu doniau ac am yr hyn y maent wedi’i gyflawni yn eu priod feysydd.
Mae’n golygu llawer iawn i mi fod proffesiwn datblygu’r celfyddydau wedi cael ei gydnabod yn eu plith oherwydd, wrth weithio ar hyd fy oes fel hwylusydd, yn aml y tu ôl i’r llenni neu’n anweledig, fy angerdd erioed fu am yr hyn y gall ymdrech artistig ei gynhyrchu a’i roi i’r byd.
Fel Is-lywydd bydd fy ymrwymiad i hyn yn parhau ac rwy’n edrych ymlaen at wneud yr hyn a allaf i helpu’r Coleg a’i gymuned ifanc llawn ysbrydoliaeth i ffynnu’n greadigol ac i gael effaith bwerus ar bobl, lleoedd a bywydau.’Lucy StoutIs-lywydd CBCDC
Fel Is-lywydd, bydd Lucy yn hyrwyddo ein hachos yn benodol dros gefnogaeth ar draws ein prosiectau cyfalaf a refeniw allweddol, gan gynnwys ein Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe a Sefydliad Cronfa Syr Bryn Terfel ymhlith eraill, a bydd ei chyfraniad parhaus yn dod â chefnogaeth a hyder amhrisiadwy wrth i ni edrych i’r dyfodol.








