Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

CBCDC yn sefydlu canolfan ranbarthol yn Theatr Clwyd, ac yn ffurfioli partneriaeth â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, fel rhan o fenter genedlaethol CBCDC Agored ar gyfer ehangu mynediad a datblygu talent.

Partneriaeth genedlaethol ar gyfer mynediad a datblygu talent, a arweinir gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw CBCDC Agored sy’n adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol, yn cysylltu arbenigedd partneriaid ac yn cryfhau llwybrau dilyniant ledled Cymru, tra’n cyfoethogi bywyd diwylliannol y wlad ar gyfer pob oedran a gallu.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 27/11/2026

Partneriaeth genedlaethol ar gyfer mynediad a datblygu talent, a arweinir gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw CBCDC Agored sy’n adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol, yn cysylltu arbenigedd partneriaid ac yn cryfhau llwybrau dilyniant ledled Cymru, tra’n cyfoethogi bywyd diwylliannol y wlad ar gyfer pob oedran a gallu. 

Yn ogystal â hyn, mae’r Coleg a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) newydd lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy’n cryfhau’r bartneriaeth rhwng dau sefydliad cenedlaethol er mwyn creu llwybrau cliriach i bobl ifanc yng Nghymru.

Bash Fawr

Mae’r Coleg yn ymestyn ei waith i ehangu mynediad at addysg yn y celfyddydau a datblygu talent greadigol y dyfodol trwy rym partneriaethau ar draws Gogledd, Gorllewin Canolbarth a De Cymru. Dathlwyd y cam cyntaf yr wythnos hon mewn digwyddiad lansio yng Ngogledd Cymru, a ddaeth â CBCDC, Theatr Clwyd a Galeri ynghyd, ochr yn ochr â rhwydwaith cynyddol o bartneriaid addysgol a diwylliannol. 

Bydd Rheolwr Rhaglen penodol ar gyfer CBCDC Agored, sydd wedi’i leoli yn Theatr Clwyd, yn helpu i gydlynu gweithgareddau a datblygu cyfleoedd newydd gyda phartneriaid ledled y rhanbarth.

Cefnogir CBCDC Agored gyda chyllid wedi’i glustnodi gan Medr.

Dylai pob person ifanc yng Nghymru gael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau neu ddarganfod eu talent beth bynnag fo'u cefndir, a lle bynnag maen nhw’n byw. Mae'r celfyddydau a diwylliant wrth wraidd ein cenedl, maent yn cyfoethogi bywydau ac yn chwarae rhan bwysig yn ein dyfodol economaidd.

Rydw i’n gyffrous y bydd CBCDC Agored yn dod â phartneriaethau hanfodol at ei gilydd i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu datblygu eu talent eithriadol trwy lwybrau talent hygyrch a chydnabyddedig. Bydd gweithio fel hyn yn helpu i sicrhau dyfodol y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, a bod Cymru yn dod y pwerdy creadigol mae ganddi'r potential i fod.'
Heledd FychanGweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Cryfhau llwybrau dilyniant ledled Cymru

Mae CBCDC Agored yn dod â sefydliadau celfyddydol megis CCIC, Theatr Clwyd, a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ynghyd i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a chymunedau ymgysylltu â’r celfyddydau, datblygu eu talent, a symud ymlaen i addysg uwch a gyrfaoedd creadigol.

‘Mae CBCDC Agored yn ein galluogi i fynd ymhellach nag erioed o’r blaen o ran agor mynediad at addysg yn y celfyddydau. Nid yw’r gwaith hwn erioed wedi bod yn fwy pwysig, nac yn fwy angenrheidiol.

Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, a thrwy gydweithio â’r partneriaid hyn, bydd CBCDC Agored yn cryfhau’r ddarpariaeth bresennol ac yn creu llwybrau talent clir a chynhwysol. O’r cyswllt cyntaf hyd at addysg uwch a thu hwnt, y nod yw sicrhau bod gan bobl ifanc dalentog o bob cymuned yng Nghymru gyfle i ffynnu.’
Helena GauntPrifathro CBCDC

Cryfhau cydweithio a chreu llwybrau cliriach: partneriaeth â CCIC

Gan adeiladu ar y cydweithio presennol, gan gynnwys gyda Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, bydd partneriaeth y Coleg â CCIC yn archwilio cyfleoedd newydd i bobl ifanc gael mynediad at fentora, arweiniad a hyfforddiant ar lefel conservatoire. Mae hyn yn cynnwys ensembles cenedlaethol newydd sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru, yn ogystal â datblygu gweithgareddau ledled Cymru. 

Bydd y ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar raglen Strings Attached CCIC, sy’n dod â cherddorion llinynnau ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd ar gyfer cyfnodau preswyl cerddorfaol dwys; a Côr Skills, prosiect datblygu corawl ar gyfer pobl ifanc 12-18 oed. Bydd y rhaglenni hyn yn parhau i gael eu cynnal ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod.

Fel dau sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth, mae’r Coleg a CCIC yn cyfuno hyfforddiant ar lefel conservatoire â rhwydwaith cenedlaethol CCIC o ensembles ieuenctid â’i arbenigedd ym meysydd cerddoriaeth, theatr a dawns. 

Mae ganddynt uchelgais ar y cyd i sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn gallu datblygu eu talentau a chael cyfleoedd i wneud cynnydd, waeth ble maent yn byw neu beth yw eu cefndir.

‘Mae creadigrwydd yn hollbwysig ar gyfer plentyndod a chymunedau iach – ac ar gyfer cenedl sy’n ffynnu. Drwy lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rydym yn ffurfioli partneriaeth rydym wedi bod yn ei meithrin gyda’n gilydd ers blynyddoedd lawer, gan ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc ledled Cymru.

Ar adeg pan fo pob rhan o’r system sy’n cefnogi creadigrwydd pobl ifanc dan bwysau, mae cydweithio fel hyn yn bwysicach nag erioed. Mae’n dangos bod ensembles ieuenctid cenedlaethol Cymru a’i chonservatoire cenedlaethol wedi ymrwymo i greu un llwybr cydgysylltiedig ar gyfer pobl ifanc.

Mae talent i’w chanfod ym mhob cymuned yng Nghymru, ond nid yw cyfleoedd bob amser yn dilyn hynny. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad yw potensial unrhyw berson ifanc yn cael ei gyfyngu gan ble maen nhw’n byw na beth y gall eu teulu ei fforddio.’
Evan DawsonPrif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Canolfannau partneriaeth rhanbarthol – cyrraedd ledled Cymru

Fel rhan o’i uchelgais hirdymor, a gan ddechrau gyda’i ganolfan gyntaf yn Theatr Clwyd, mae CBCDC Agored yn sefydlu canolfannau partneriaeth rhanbarthol yng Ngogledd, Gorllewin Canolbarth a De Cymru. Bydd gweithio gyda Rheolwyr Rhaglen CBCDC newydd, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol a chenedlaethol, yn sicrhau bod gan gymunedau a phobl ifanc dalentog fynediad haws at brofiadau ysbrydoledig a llwybrau clir i hyfforddiant. 

Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc o deuluoedd incwm is, pobl ifanc anabl, aelodau o gymunedau Cymraeg eu hiaith, a’r rheini sy’n dod o gefndiroedd ethnig amrywiol.

‘Gyda’n partneriaeth hirsefydlog â’r Coleg, rydym yn falch ac yn llawn cyffro i gychwyn ar raglen sylweddol arall o newid a gwelliant ar gyfer theatr a cherddoriaeth yng Nghymru.

Mae Gogledd Cymru, fel rhanbarth, yn magu hyder yn ein dull cydweithredol o ymdrin â diwylliant a’r diwydiannau creadigol. Bydd cael un ganolfan ranbarthol ar gyfer y rhaglen Agored yn Theatr Clwyd, ac ail ganolfan yn y gorllewin yn Galeri, yn ein galluogi i annog a chreu llwybrau ar y cyd ar gyfer pobl ifanc yn y rhanbarth, gan gynnig cyfleoedd iddynt weithio tuag at yrfaoedd creadigol a diwylliannol.

Mae’r bartneriaeth hon yn chwilio am ragor o gydweithwyr – darparwyr celfyddydau eraill, ysgolion, colegau, cyflogwyr.

Gadewch i ni wneud yn well ar gyfer ein pobl ifanc yma yng Ngogledd Cymru.’
Liam Evans-FordPrif Weithredwr, Theatr Clwyd

Nodiadau i Olygyddion

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn meithrin ac yn herio’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd, gan rymuso rhagoriaeth, tanio dychymyg a sbarduno arloesedd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru a’r ganolfan gynhyrchu fwyaf yn y wlad, rydym yn hyfforddi mwy na 900 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd cynaliadwy yn y celfyddydau fel arweinwyr y genhedlaeth nesaf o artistiaid.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Maent yn gwthio ffiniau’r hyn y gall y celfyddydau ei wneud i wella cymdeithas, gan gydweithio a chreu gwaith newydd mewn amrywiaeth o leoliadau proffesiynol a chymunedol.

Rydym yn lle i bawb, mae uchelgais greadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Nod Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw grymuso’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a chrewyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. Dyma’r elusen sy’n gyfrifol am ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru ym meysydd theatr, dawns a cherddoriaeth - gydag aelodau’n dod o bob sir yng Nghymru.

Mae CCIC wedi ymrwymo i gynwysoldeb, gan sicrhau bod gan bobl ifanc, waeth beth yw eu cefndir economaidd-gymdeithasol, fynediad at y profiadau trawsnewidiol hyn. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, Cymru Greadigol ac eraill, mae CCIC yn chwarae rhan allweddol yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.

Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw’r theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Kate Wasserberg a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford, mae’r theatr yn creu cynyrchiadau o safon fyd-eang yn fewnol, ac yn sicrhau bod y gymuned, datblygu artistiaid, ac ymgysylltu creadigol wrth wraidd ei gwaith ledled Gogledd Cymru. Ar ôl ailagor yn 2025 yn dilyn ailddatblygiad cynaliadwy gwerth £50 miliwn, mae’r ganolfan yn cynnwys dwy theatr, sinema, mannau celfyddydau ac iechyd, a bwyty mewn cydweithrediad â Bryn Williams.

Mae Galeri Caernarfon Cyf, a adwaenid gynt fel Cwmni Tref Caernarfon Cyf, yn fenter gymunedol ddielw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu. Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod ‘unrhyw beth yn bosibl...drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy.’

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, bydd y cwmni’n ‘gweithredu prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol i wireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a’r cyffiniau.’ Sefydlwyd y cwmni ym 1992 a gweithiodd yn galed i wella delwedd canol tref Caernarfon trwy brynu adeiladau adfeiliedig (siopau, swyddfeydd a thai) yn y dref. Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu ac ailddatblygu 20 eiddo yng Nghaernarfon a oedd yn wag ac mewn cyflwr gwael yn flaenorol.


Negeseuon newyddion eraill