

Cyn Coleg
Mae’r Coleg yn cynnig lle meithringar a chreadigol i bobl ifanc archwilio a datblygu eu talentau a’u sgiliau unigol. Rydyn ni’n eu grymuso i gyflawni eu potensial a chymryd y cam nesaf yn eu taith greadigol, beth bynnag fo hynny.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru i gymryd eu camau nesaf i addysg uwch, tra’n helpu mwy o gymunedau i fwynhau a chymryd rhan mewn cerddoriaeth am flynyddoedd i ddod.
'Un o swyddogaethau mwyaf hanfodol y Coleg yng Nghymru yw datblygu talent artistig mewn pobl ifanc, gan ymestyn cyfleoedd, amrywiaeth a mynediad. Mae’r digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd hyn, sy’n rhad ac am ddim, yn cynnig cyfleoedd i brofi cerddoriaeth a pherfformiadau byw, gan gyfeirio at lwybrau \r gyfer datblygu ymhellach, a meithrin uchelgais greadigol.'Kevin PriceCyfarwyddwr CBCDC Agored
Gweithdai cerddoriaeth ymgolli
Rydyn ni’n credu bod cerddoriaeth i bawb. Mae ein diwrnodau offerynnau am ddim yn rhoi cyfle i gerddorion ifanc archwilio eu hofferyn a chreu cerddoriaeth mewn amgylchedd gweithdy ymarferol a chydweithredol.
O sesiynau blasu i weithdai gydag artistiaid o’r radd flaenaf, mae’r sesiynau’n darparu profiad ac ysbrydoliaeth ar gyfer pob lefel, gan feithrin eu cymhelliant a’u hyder.
Diwrnodau i ddod
Rydyn ni wrthi’n cadarnhau dyddiadau newydd. Dewch yn ôl yn fuan i weld unrhyw ddiweddariadau.
Celfyddydau cynhyrchu – cyrsiau gwyliau sy’n cynnig cipolwg y tu ôl i’r llenni
Nid dim ond i’r rhai sydd eisiau perfformio y mae’r diwydiannau creadigol. Os ydych chi’n berson ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llwyfan, mae ein cyrsiau celfyddydau cynhyrchu yn cynnig cyfle i archwilio Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Dylunio.
Mae ein cyrsiau a'n dosbarthiadau meistr yn rhoi cipolwg go iawn i bobl ifanc greadigol ar y diwydiannau 'cefn llwyfan' ehangach, a'r hyfforddiant ysgol ddrama sy'n cefnogi hynny. Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn cyflwyno dosbarthiadau arbenigol mewn sgiliau gan gynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, dylunio gwisgoedd a setiau.
Dosbarthiadau meistr celfyddydau cynhyrchu sydd ar y gweill
Dolenni defnyddiol

Ein cynnig i ysgolion a cholegau

Rhagor o wybodaeth am Ddiogelu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Ein partneriaid

Llwybr Talent Cenedlaethol

Canolfannau partneriaeth rhanbarthol













