Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Diogelu yn CBCDC

Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth.

Cadw ein cymuned yn ddiogel ac yn iach

Ein nod yw

  • darparu amgylchedd dysgu diogel a chefnogol i blant ac oedolion sy’n wynebu risg, lle gallant ddatblygu eu llawn botensial
  • creu diwylliant diogelu cryf o fewn ein sefydliad, fel y gall rhieni a gofalwyr fod yn dawel eu meddwl ynglŷn â’r gofal y mae eu plant yn ei dderbyn
  • sicrhau bod ein cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi’n ddigonol i gymryd rhan hyderus a rhagweithiol mewn cynnal y diwylliant diogelu o fewn y sefydliad


Rhoi gwybod am bryderon

Ein Pobl Ddynodedig ar gyfer Diogelu yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch neu les plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg. Y rhain yw:

Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r bobl hyn i roi gwybod am eich pryderon

Y Prif Swyddog Diogelu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am yr holl weithgarwch diogelu yn y Coleg. Hwn yw:

Brian Weir, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr - brian.weir@rwcmd.ac.uk