Neidio i’r prif gynnwys

Canolfan Anthony Hopkins

Mae’r Ganolfan Anthony Hopkins hanesyddol, gyda’i hiard awyr agored drawiadol a’i lôn goed, yn gartref i gyfleusterau pwysig y Coleg, gan gynnwys stiwdios Corus a Weston, theatr stiwdio S4C, sawl ystafell ymarfer cerddoriaeth a stiwdio recordio broffesiynol.

Gwybodaeth am yr adeilad


Mae’r adeilad wedi'i enwi ar ôl un o actorion gorau'r byd, Anthony Hopkins, sy’n gyn-fyfyriwr ac yn is-lywydd y Coleg. Arferai'r adeilad rhestredig Gradd II fod yn floc stablau ar gyfer Castell Caerdydd, ac mae’n gyforiog o gymeriad a naws. Mae’n gartref i gyfleusterau allweddol y Coleg, gan gynnwys theatr stiwdio S4C, nifer o ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth, a stiwdio recordio broffesiynol.

Cymerwch gipolwg ar y tu mewn


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf