Neidio i’r prif gynnwys

Yr Hen Lyfrgell

Rydym wrthi'n trawsnewid adeilad hyfryd yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Yn y tymor byr, byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion, tra byddwn yn paratoi'r adeilad ar gyfer y dyfodol. Yn y tymor hir, byddwn yn cynnal rhaglen fywiog o berfformiadau a digwyddiadau cyhoeddus ym maes cerddoriaeth a drama.

Gwybodaeth am y gofod


Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i gais CBCDC i sicrhau prydles hirdymor ar yr adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru. Mae’r cynlluniau uchelgeisiol a gymeradwywyd heddiw yn addo meithrin yr ystod fwyaf amrywiol o ddoniau a chyfuno arloesedd gyda threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys creu mannau cerddoriaeth a pherfformio, hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg a rhoi ‘lolfa yn y ddinas’ ar gyfer y cyhoedd.

Cymerwch gipolwg ar y tu mewn

Weledigaeth ffres

Mae’r weledigaeth ffres hon yn defnyddio rhagoriaeth greadigol CBCDC er mwyn cynorthwyo i wireddu potensial llawn y trysor pensaernïol hwn. Mae cais Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnwys cynlluniau i:

  • Weithio mewn partneriaeth â nodau Canolfan y Gymraeg a Diwylliant Cymru i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg
  • Dychwelyd yr Hen lyfrgell i’w swyddogaeth addysg wreiddiol ar gyfer myfyrwyr y Coleg
  • Adfer yr adeilad rhestredig er mwyn arddangos ei nodweddion gwreiddiol, gan gadw at gynllun gwreiddiol yr adeilad
  • Cyflwyno cyfres o fannau perfformio, arddangos a rihyrsal i’r ystafelloedd presennol.
  • Darparu mynediad cyhoeddus i ‘lolfa yn y ddinas’
  • Agor caffi/man creadigol.

'Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru rydym eisiau ysgogi chwilfrydedd a meithrin yr ystod fwyaf amrywiol o ddoniau, gan gyfuno arloesedd gyda thraddodiad diwylliannol a threftadaeth Cymru.

Mae’n gyffrous iawn i gael y cyfle hwn i ddod â rhyfeddod y Coleg i galon prifddinas Cymru, a gweithio ochr yn ochr â phobl leol, artistiaid a doniau creadigol i wireddu ein cynlluniau. Mae rhoi bywyd newydd i’r Hen Lyfrgell yn rhan o addewid CBCDC i Gymru, ei phrifddinas ac i genedlaethau’r dyfodol.

Dros y blynyddoedd nesaf ein nod fydd cynnig ystod o weithgareddau llawn ysbrydoliaeth a phrofiadau creadigol yn yr Hen Lyfrgell a byddem wrth ein bodd yn archwilio syniadau ar gyfer prosiectau ar y cyd yn y dyfodol gyda sefydliadau ac artistiaid sydd â diddordeb mewn rhannu’r cyfle hwn. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd a dychwelyd yr adeilad i’w wreiddiau, sef addysg a chymuned yn Ninas Cerddoriaeth.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Cyrraedd yma

Cyfeiriad

Yr Hen Lyfrgell
The Hayes
Caerdydd
CF10 1BH

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf