Neidio i’r prif gynnwys

Stiwdios Llanisien

Gweithdy a gofod addysgu gyda’r holl adnoddau a chyfleusterau ar gyfer gwaith coed a metel, a mannau pwrpasol ar gyfer cerflunio ac arlunio.

Hyfforddiant y diwydiant


Mae ein gweithdy yn Llanisien wedi’i leoli ym Mharc Busnes Caerdydd, sydd daith bws fer o’r prif gampws. Mae’n gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer addysgu technegau adeiladu a chelfyddydau golygfaol. 

Ein cyfleusterau gweithdy yn Llanisien yw’r mwyaf ac sydd â’r offer gorau o unrhyw conservatoire cystadleuol – sy’n galluogi ein myfyrwyr i weithio â'r un offer ag arbenigwyr yn y diwydiant.


Y tu mewn i’r gweithdy

Cyfleusterau myfyrwyr

Mae’r cyfleusterau myfyrwyr yn ac o amgylch campws Llanisien yn cynnwys ystafell orffwys fawr i fyfyrwyr gyda chyfleusterau coginio a pheiriant gwerthu bwyd, ynghyd ag ystafell les dawel fach i unrhyw un sydd angen ychydig o le. Y tu allan mae meinciau picnic, ac ychydig o gerdded i ffwrdd mae dewis o gaffis, siopau ac archfarchnadoedd.

Cyrraedd yma

Cyfeiriad

50-54 Cilgant Lambourne
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GG

Adran archwilio