Neidio i’r prif gynnwys

Neuadd Dora Stoutzker

Mae’r ysblennydd Neuadd Dora Stoutzker yn cyfuno pensaernïaeth gyfoes gain gydag acwsteg o’r radd flaenaf; mae ganddi gapasiti o 400 o seddi ac mae llawer o gyngherddau a digwyddiadau uchel eu proffil wedi cael eu cynnal yno.

Gwybodaeth am y neuadd


Neuadd Dora Stoutzker (400 sedd), gyda’i hacwsteg wych, yw’r unig neuadd bwrpasol ar gyfer datganiadau cerddoriaeth siambr yng Nghymru. Gyda’i gwaith pren euraidd a’i balconi uwch, mae’r neuadd yn cofleidio’r gynulleidfa o gwmpas y perfformwyr, gan greu profiad clos sy’n cael ei rannu gan y cerddorion a’r gynulleidfa fel ei gilydd.

Mae harddwch ac acwsteg o’r radd flaenaf y “Dora”, a edmygir gan gerddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, yn ysbrydoli ac yn arddangos perfformiadau ein hartistiaid ifanc a hefyd yn denu cerddorion proffesiynol byd enwog i berfformio ar ei llwyfan a gweithio gyda’n myfyrwyr bob blwyddyn. Mae rhaglen gyfoethog ac amrywiol yn golygu y caiff y neuadd ei defnyddio gydol y flwyddyn gan gynnwys ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol fel Cerddor Ifanc y BBC a BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Cymerwch gipolwg ar y tu mewn

Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni

'Gwnaeth eich adeilad newydd gryn argraff arna i, ac mae’r neuadd gyngerdd yn wych. Dyma’r neuadd fodern orau i mi ei gweld erioed.'
Cymdeithas Obo Prydain
'Roedd Neuadd Dora Stoutzker yn lleoliad gwirioneddol wych ar gyfer y gystadleuaeth ac mae’r adborth a gawsom gan yr holl gystadleuwyr, eu hathrawon, eu rhieni a’n beirniaid yn adlewyrchu hyn.'
Cerddor Ifanc y BBCGolygydd Gweithredol
'Mae’r rhain yn gyfleusterau o’r radd flaenaf na allwn ond breuddwydio amdanynt pan ddechreuais yn y proffesiwn.'
Syr Bryn Terfel

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf