Neidio i’r prif gynnwys

Theatr Richard Burton

Mae lle i 180 o bobl eistedd yn Theatr Richard Burton ac mae ganddi gyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae ei dyluniad cyfoes yn sicrhau’r berthynas agosaf bosib rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr.

Gwybodaeth am y theatr


Mae Theatr Richard Burton wedi'i henwi ar ôl un o actorion gorau Cymru. Mae ei chynllun pedol cyfoes a’i lliw porffor tywyll yn ymgilio i sicrhau bod y gynulleidfa yn canolbwyntio’n llwyr ar y perfformiad.

Cymerwch gipolwg ar y tu mewn

Cwmni Richard Burton

Mae’r theatr yn gartref i Gwmni Richard Burton, ein cwmni theatr mewnol lle mae actorion a rheolwyr llwyfan y flwyddyn olaf yn gweithio gyda myfyrwyr o gyrsiau cynhyrchu a dylunio’r Coleg. Bob blwyddyn, byddant yn llwyfannu tua phymtheg o gynyrchiadau, o ddramâu clasurol i rai cyfoes a chyfansoddiadau newydd, wedi’u cyfarwyddo gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni

'Mae’r rhain yn gyfleusterau o’r radd flaenaf na allwn ond breuddwydio amdanynt pan ddechreuais yn y proffesiwn.'
Syr Bryn Terfel

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf