Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Arwain Corawl

  • Dyfarniad:

    MMus Arwain Corawl

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    812F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Gosodwch y sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus gyda’n cwrs sy’n cyfuno cyfleoedd arwain corawl a hyfforddiant llais arbenigol.

Trosolwg o’r cwrs

Gyda’n rhaglen meistr arloesol sy’n cynnig amrywiaeth eang o brofiad arwain, byddwch yn datblygu’r holl sgiliau arddull, technegol ac artistig sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn diwydiant celfyddydau sy’n newid drwy’r amser.

Bydd eich hyfforddiant yn cynnwys detholiad eang o ddulliau dysgu a fydd yn eich helpu i ymgymryd â rôl arweinydd yn hyderus. Mae’n canolbwyntio ar dri maes sy’n sail i’ch twf personol a phroffesiynol: celfyddyd greadigol, ymchwil a myfyrio, a diwydiant ac arloesi.

Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn gweithio gyda chantorion mewn dosbarthiadau arwain corawl wythnosol, yn cymryd rhan mewn hyfforddiant llais arbenigol ac yn cael cyfleoedd niferus ac amrywiol i arwain a chyfarwyddo.

Mae ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant yn golygu y byddwch yn gallu arsylwi ar arweinyddion yn rheolaidd mewn lleoliad proffesiynol – fel Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru – ac o bosibl trafod materion sy’n ymwneud â thechneg a repertoire â nhw.

Yn ein hamgylchedd dysgu ysbrydoledig, bydd gennych chi’r rhyddid i archwilio eich diddordebau creadigol, gan chwalu rhwystrau gyda dulliau arloesol o ymdrin â’ch crefft wrth i chi ddatblygu barn ac awdurdod cerddorol aeddfed.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mae eich prif astudiaeth – sy’n gymysgedd o hyfforddiant un i un a hyfforddiant grŵp – yn cynnwys gwersi techneg arwain unigol, dosbarthiadau arwain corawl gyda chantorion a sesiynau gweithdy repertoire corawl. Nid yw’r hyfforddiant yr un fath i bawb – gallwch amrywio’r mathau o ensembles ac arddulliau repertoire rydych chi’n gweithio gyda nhw, gan eich helpu i lywio eich astudiaethau o amgylch eich diddordebau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Gallwch gymryd rhan mewn sesiynau dosbarth meistr gyda chyfarwyddwyr ac arweinwyr corawl sy’n adnabyddus yn rhyngwladol. Gall y gweithwyr proffesiynol hyn, sydd ar y brig yn eu maes, gynnig arweiniad ar ddatblygu eich sgiliau a’ch galluoedd i’r lefel uchaf.
  • Mae gwaith ymarferol gyda grwpiau corawl eraill yn y Coleg yn elfen allweddol o’ch astudiaeth. Cewch amrywiaeth o gyfleoedd i gyfarwyddo ensembles, ymarferion a chynyrchiadau’r Coleg – gan gynnwys corws, côr siambr a chorws opera y Coleg.
  • Gallwch hefyd gymryd rhan yn y broses o ymarfer ac arddangos gweithiau newydd am y tro cyntaf gan gyfansoddwyr y Coleg neu arwain perfformiadau myfyrwyr sy’n hyrwyddo eu hunain.
  • Byddwch yn cael llawer o gymorth un i un, ond mae cyfleoedd i gydweithio yn rhan annatod o'r cwrs hefyd. Gallwch weithio gyda myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini sy’n astudio ein cyrsiau drama, gan eich helpu i danio eich creadigrwydd a meithrin partneriaethau a allai bara am oes.
  • Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi neu sy’n cyd-fynd â'ch nodau gyrfa.
  • Mae gennym berthynas gref â sefydliadau celfyddydol adnabyddus, sy’n annog ein myfyrwyr i arsylwi ar eu harweinwyr mewn lleoliad proffesiynol – fel gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn cynnwys, o bryd i'w gilydd, cerddorfeydd a chorau sy'n ymweld fel rhan o Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant.
  • Bydd hanner eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol, sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys cwrdd yn rheolaidd â mentor arbenigol, gan eich helpu i gael gwybodaeth werthfawr am y diwydiant ac ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau.
  • Gallwch gefnogi eich astudiaeth gyda dosbarthiadau mewn repertoire corawl, darllen sgoriau, paratoi sgoriau, hyfforddiant clywedol ac astudiaethau repertoire ehangach – mae rhai o’r rhain yn cael eu cynnig ar y cyd â disgyblaethau arwain eraill, fel y band cerddorfaol a’r band pres.
  • Gallwch hefyd ofyn am gael ymuno â dosbarthiadau perthnasol yn adrannau’r Coleg sy’n ymwneud â’ch diddordebau – fel dosbarthiadau iaith astudiaethau llais mewn Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg.
  • Byddwch yn cael cyfres o seminarau cyflogadwyedd sy’n edrych ar elfennau datblygu gyrfa bortffolio lwyddiannus – gan gynnwys meysydd fel cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithio, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid a sefydlu eich hun fel artist annibynnol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf