Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Richard Burton

Hamlet

Tocynnau: £9 - £18

Gwybodaeth

Mae llygredigaeth a thwyll yn rhemp. Mae llais tad Hamlet yn dweud wrtho am ddial am ei lofruddiaeth. Mae gwallgofrwydd yn dilyn a cheisir dial. Gan ystyried bywyd a marwolaeth, mae’n gofyn y cwestiwn enwog.
Ym mlwyddyn canmlwyddiant Richard Burton mae’r Coleg yn archwilio wynebau niferus Hamlet, gan ddathlu rôl enwocaf yr actor eiconig hwn.

Gan William Shakespeare

Cyfarwyddwr Joanna Bowman

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir