Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Richard Burton

The Lonesome West

  • Trosolwg

    23 - 30 Hyd

  • Lleoliad

    Stiwdio Caird

  • Prisiau

    £8 - £16

  • Oedran

    14+

Tocynnau: £8 - £16

Lleoliad: Stiwdio Caird

Gwybodaeth

Ar ôl marwolaeth ddamweiniol eu tad, mae dau frawd sy’n oedolion, Valene a Coleman, yn byw yn ei dŷ ym mryniau Connemara. Wedi’u cloi mewn brwydr o gystadleuaeth rhwng brawd a brawd a checru plentynnaidd dros y pethau mwyaf dibwys, yr unig berson all eu hachub yw eu hoffeiriad plwyf sy’n alcoholig. Mae comedi dywyll a llwm gwobrwyedig Martin McDonagh yn archwiliad doniol a chythryblus o’r hyn sy’n digwydd pan fydd y byd modern yn eich gadael ar ôl.

Gan Martin McDonagh

Cyfarwyddwr Patricia Logue

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir