Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio - Cerddoriaeth

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £28.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer BMus (Anrh) Cerddoriaeth yw.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Cwrs

Cerddoriaeth

Ceisiadau’n agor

10 Gorffennaf 2024

Ceisiadau’n cau

2 Hydref 2024

Cwrs

MA Cyfarwyddo Opera

Ceisiadau’n agor

10 Gorffennaf 2024

Ceisiadau’n cau

2 Hydref 2024

Clyweliadau

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025, bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gyflwyno clyweliad i gefnogi eu cais. Dylid cyflwyno clyweliadau erbyn Dydd Llun 21 Hydref 2024. Ewch i’n tudalen canllawiau clyweliad i gael manylion y broses glyweliad ar gyfer y cwrs hwn.

Ffioedd clyweliadau

Mae ffi clyweliad o £63. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.

If you need help with your application, you can also contact the UCAS Conservatoires Team by telephone on 0371 468 0 470 (if you’re in the UK) or +44 330 3330 232 (if you’re outside the UK).

Archwilio cerddoriaeth