Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cory Band

Tocynnau: £10 - £20

Gwybodaeth

Mae un o fandiau pres mwyaf gwobrwyedig y byd yn dychwelyd i’w gartref yng Nghaerdydd am noson o gerddoriaeth na ddylid ei cholli yn CBCDC, lle mae Cory yn falch o fod yn Fand Pres Preswyl. Dan arweiniad eu Cyfarwyddwr Cerdd ysbrydoledig Philip Harper, bydd Cory yn perfformio rhaglen feiddgar ac amrywiol sy’n cynnwys clasuron bythol bandiau pres, cerddoriaeth o ffilmiau John Williams, ac unawdau cyfareddol gan brif chwaraewyr y band - rhai o gerddorion offerynnau pres gorau’r byd. Mae’r noson hefyd yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan y genhedlaeth nesaf o dalent pres, a fydd yn camu i’r llwyfan ar ôl diwrnod o weithdai gyda Band Cory a pherfformwyr CBCDC.

Byddwch yn barod am chwarae o’r radd flaenaf, repertoire cyffrous a’r egni diamheuol sydd wedi gwneud Cory yn un o fandiau pres gorau’r byd!

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir