Neidio i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae CBCDC yn ofod i bawb – mae cynwysoldeb yn werth craidd ac rydym yn parchu ein gilydd. Mae hyn yn hollbwysig i’n rhagoriaeth.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gasgliad o wyth amcan trosfwaol ar gyfer 2020-25, ac mae'n cael, wedi'i ategu gan gynllun gweithredu blynyddol. Ochr yn ochr â hyn, ac wedi’i gysylltu’n uniongyrchol iddo, rydym wedi trosi’r amcanion yn Gynllun Gwrth-hiliaeth sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd eleni ac yn y dyfodol i greu’r math o brofiad Coleg cynhwysol yr ydym i gyd am ei rannu.

'Fel y dywedodd ein Hathro Cadair Rhyngwladol ar gyfer Amrywiaeth, Uzo Iwobi, mor wych yn lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365, mai taith rydym yn ei chyd-gerdded yw hon.

Gwyddom nad ydym wedi cyrraedd eto ond rydym yn gwrando ac yn dysgu wrth i ni fynd ac mae’n wych i gael cefnogaeth ar draws y Coleg er mwyn helpu i gael popeth yn iawn.

Mae’n daith heriol, ond mae dysgu gyda’n gilydd yn werthfawr iawn ar nifer o lefelau. Diolch i bawb sy’n gweithio gyda ni ar hyn.'
Yr Athro Helena GauntPrifathro
'Pan ddangoswn ein hunain ar ein gorau cyfoethogir y Coleg hwn. Rwy’n annog pawb i fod yn rhan o’r ateb ac nid rhan o’r broblem.

Allwn ni ddim gwadu’r gorffennol oherwydd byddai gwneud hynny yn annilysu poen cymaint o bobl.

Ond mewn cydnabyddiaeth o hynny, gyda’u cefnogaeth, byddwn yn datblygu i ddod yn well Coleg. Mae gennym ddywediad yn Affrica, ‘Os ydych chi eisiau mynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych eisiau mynd yn bell, ewch gyda’ch gilydd.

Rydw i wrth fy modd ein bod, fel Coleg, i gyd yn mynd gyda’n gilydd.'
Yr Athro Uzo Iwobi CBEIs-Lywydd CBCDC
'Rwy mor falch o fod yn rhan o Goleg a dinas lle rwy'n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei chofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn fi fy hun go iawn, a lle mae fy ngallu a fy noniau yn cael eu cydnabod a'u dathlu.'
Mica SmithMyfyriwr cerdd

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf