Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Partneriaeth Cerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol: perfformio gyda’n gilydd fel cymuned greadigol

Mae partneriaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Cherddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) yn dod â phosibiliadau newydd i gerddorion ifanc lleol 11-25 oed.

Rhannu neges

Categorïau

Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi

Published on 20/03/2024

Mae partneriaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Cherddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) yn dod â phosibiliadau newydd i gerddorion ifanc lleol 11-25 oed.

Gan adlewyrchu ffocws y Coleg ar hygyrchedd a chynhwysiant, ei nod yw mynd i’r afael â’r rhwystrau systemig y mae cymaint o bobl ifanc anabl yn eu hwynebu a chynnig y cyfleoedd cerddorol sydd ar gael i’w cyfoedion nad ydynt yn anabl trwy hyfforddiant ensemble a dod yn rhan o gymuned CBCDC.

​​​

'Mae CBCDC ar flaen y gad mewn dangos y gall yr hyn a ddysgir gan NOYO ymestyn allan i wneud addysg cerddoriaeth yn fwy hygyrch.

Mae cerddorion ifanc anabl dawnus yr un mor haeddiannol o addysg cerddoriaeth ag unrhyw un arall a byddai’r proffesiwn yn lle tlotach yn y dyfodol hebddynt. Rydym yn hynod ddiolchgar am waith gwych ac arloesol ein partneriaid CBCDC a BBC NOW.’
Doug BottCyfarwyddwr Artistig, NOYO

Integreiddio o fewn rhaglen gerddoriaeth addysgol CBCDC

Mae sawl Ensemble NOYO yn bodoli yn y DU, ond Ensemble NOYO Caerdydd yw’r unig un sydd wedi’i hintegreiddio o fewn rhaglen gerddoriaeth addysgol. Pan ddaw myfyrwyr yn aelod o Ensemble NOYO Caerdydd, maent hefyd yn dod yn aelod o CBCDC Iau, gan rihyrsio a pherfformio yn yr un gymuned â myfyrwyr eraill y Coleg, gyda mynediad at yr un athrawon, adnoddau, a chefnogaeth ar gyfer dyheadau cerddorol y dyfodol.

‘Mae cymaint o’r sector addysg cerddoriaeth yn seiliedig ar fodel ‘un maint i bawb’, ac mae llawer o gerddorion ifanc anabl yn cael eu heithrio rhag cael mynediad at gyfleoedd oherwydd yr offeryn y maent yn ei chwarae, neu’r ffordd y maent yn dysgu ac yn rhyngweithio â cherddoriaeth,’ meddai Rhianydd Davies, ffliwtydd a myfyriwr CBCDC, a arferai chwarae gyda’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn Bournemouth ac sydd bellach yn Arweinydd Cerddoriaeth Cynorthwyol yn Ensemble Caerdydd.

‘Mae NOYO yn rhoi cyfle y mae mawr ei angen i gerddorion ifanc gydweithio ag eraill mewn amgylchedd cynhwysol a chreadigol lle gallant ddatblygu eu sgiliau a’u syniadau eu hunain a chyflawni eu llawn botensial. 

Mae’r pedair blynedd a dreuliais yn chwarae gyda’r NOYO wedi bod yn amhrisiadwy i mi, ar lefel gerddorol a phersonol, ac mae’n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o hwyluso’r cyfle hwn i gerddorion yng Nghaerdydd.'

Creu democratiaeth artistig - perfformio gyda’n gilydd fel cymuned greadigol

Dechreuodd y bartneriaeth ym mis Medi 2023, gan ddod â phum cerddor NOYO i mewn, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol fel profiad dysgu i fyfyrwyr NOYO a chymuned y Coleg yn gyffredinol. Mae’r cerddorion bellach yn gweithio ar baratoi i berfformio’n gyhoeddus a dod yn rhan o waith presennol Conservatoire Iau’r Coleg.

Dywedodd y feiolinydd Josh, sydd yn ei flwyddyn gyntaf gyda’r Ensemble, ‘Mae ymuno ag Ensemble NOYO Caerdydd wedi agor y drws i lawer o gyfleoedd, yn enwedig gweithio gyda cherddorion proffesiynol. Rydw i wedi mwynhau yn arbennig y cyfle i gael chwaraewyr proffesiynol o BBC NOW yn eistedd wrth fy ymyl, yn chwarae ochr yn ochr â mi. Mae fy ngwybodaeth gerddorol wedi cynyddu ac mae fy hyder cerddorol a phersonol wedi datblygu.’

Cyn lansio’r bartneriaeth, cynhaliodd CBCDC archwiliad hygyrchedd ar draws y Coleg, yn edrych ar bob agwedd ar ei allbwn, gan gynnwys ei raglen perfformiadau i’r cyhoedd, cyfleusterau hygyrch a dulliau o ymdrin â rhaglennu cynhwysol.

‘Mae wedi ein galluogi i greu strwythur systemig, gan alluogi ein syniadau uchelgeisiol i ddod yn realiti, a chaniatáu i’n holl gerddorion brofi democratiaeth hardd cymuned greadigol, gan ddod at ei gilydd fel rhan annatod o’r ysgol hon o’r celfyddydau perfformio.

Yr ymdeimlad hwn o gymuned yw’r hyn sydd wedi diffinio ein gwaith ensemble ar ddyddiau Sadwrn fel rhan o’r Conservatoire Iau, ac mae lle gwirioneddol i’r rheini sy’n uniaethu’n anabl a’r rheini nad ydynt i fod yn greadigol gyda cherddoriaeth a chyd-chwarae.'
Kevin PriceDirprwy Gyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC

Meithrin ac archwilio datblygiad talent mewn amgylchedd croesawgar

Mewn ymateb i’r gwaith gyda NOYO mae’r Coleg yn edrych ar ddatblygu ei fodiwlau cerddoriaeth blynyddoedd cynnar i greu cyfleoedd pellach i gerddorion ifanc anabl ymuno â’r Conservatoire Iau yn gynharach ac yna i fwydo i NOYO o bosibl.

Ym mlwyddyn pen-blwydd y Coleg yn 75 oed mae’r gwaith partneriaeth hwn yn archwilio datblygu talent o fewn repertoire y Conservatoire Iau, fel y gall y myfyrwyr hyn fod yn agosach at gerddorion NOYO er mwyn datblygu a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd ar y penwythnosau.

‘Ar ôl gyrfa yn perfformio ar y lefel uchaf, rydw i’n ymwybodol iawn o’r diffyg cyfleoedd cerddorol y mae pobl ifanc anabl yn eu hwynebu. Mae NOYO yn arwain y ffordd o ran sut y dylai ac y gall hyn newid,’ meddai Andy Everton, arweinydd cerddoriaeth Ensemble NOYO Caerdydd.


'Yn ein Ensemble NOYO, rydym yn canolbwyntio ar greu amgylchedd croesawgar, anfeirniadol lle gall profiad cerddorol ystyrlon ddigwydd. Rydym yn trefnu ein cerddoriaeth ar gyfer y grŵp amrywiol o gerddorion anabl a rhai nad sy’n anabl y byddwn yn gweithio â nhw, ac mae eu creadigrwydd eu hunain hefyd yn dylanwadu ar hyn.

Mae rhai yn darllen nodiant, eraill ddim neu ond yn dechrau dysgu. Gyda thechnoleg fodern a pheth meddwl, nid oes angen i ddim o hyn fod yn rhwystr i chwarae mewn ensemble.

Yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw y gall chwaraewyr o wahanol oedrannau, o gefndiroedd gwahanol, a gyda gwahanol anghenion o ran mynediad, oll ddod at ei gilydd trwy bŵer cerddoriaeth os ydym yn creu amgylchedd cynhwysol. Dylai hyn fod yn wers i bawb.’
Andy EvertonArweinydd cerddoriaeth Ensemble NOYO Caerdydd.

Negeseuon newyddion eraill