Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gwneud ein straeon yn hygyrch: Integreiddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghynhyrchiad ‘A Christmas Carol’

Gwneud gwaith hygyrch yw un o ddibenion allweddol yr hyfforddiant artistig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Ehangu syniadau a gorwelion

Yn ogystal â denu cynulleidfa newydd, mae’n ehangu syniadau a gorwelion, yn ogystal â set sgiliau’r actorion sy’n dod yma i hyfforddi.

Mae hyfforddiant yr actorion yn CBCDC yn golygu eu bod, yn ogystal â gweithio gyda chyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, yn dod yn artistiaid a gwneuthurwyr ynddynt eu hunain, a byddant yn flaengar yn y math hwn o waith wrth iddynt symud ymlaen i’w gyrfaoedd yn y diwydiant.

‘Os mai’r hyn yr ydym am ei wneud yw agor y diwydiant theatr a’i wneud yn hygyrch i bawb, a gwneud gwaith mwy hygyrch, a hefyd cynrychioli pawb ar y llwyfan ac yn ein straeon, yna mae’n rhaid iddo ddechrau yma, yn y man lle hyfforddir actorion.’
Seán LinnenCyfarwyddwr, 'A Christmas Carol'

Mae rôl y dehonglydd wedi’i blethu i’r ddrama

Roedd gwybod y byddai’r ddrama’n cynnwys BSL o’r cychwyn yn bwysig iawn oherwydd bod y rôl wedi’i hintegreiddio’n llawn, ac mae pob penderfyniad wedi’i wneud gyda hyn mewn golwg. Mae Erin Siobhan Hutching, y dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, wedi’i phlethu’n llwyr i’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan.

Rydym wedi cydweithio â’r ymgynghorydd mynediad creadigol a Chymrawd CBCDC Jonny Cotsen, a’r ymgynghorydd BSL Steph Bailey-Scott o Taking Flight sydd wedi bod yn gweithio gyda’r actorion a’r cyfarwyddwr mewn rihyrsals.

Dehongli llawn ysbrydoliaeth

Mae’r ymarferion wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd i’w weld ar y llwyfan, yn benodol gwneud yn siŵr bod y dehonglydd i’w gweld bob amser fel y gall aelodau’r gynulleidfa sy’n fyddar ei gweld.

‘Ond mae hefyd yn ymwneud â’r tableau fel delwedd,’ meddai’r fyfyrwraig actio Jessie Franks. ‘Pe byddech yn oedi ac yn methu â chlywed dim, a fyddech chi’n gallu portreadu a mynegi beth yw’r olygfa dim ond trwy ei gweld? 

‘Mae’r modd y mae Erin yn defnyddio ei hwyneb ynghyd â’i harwyddo mor ysbrydoledig fel actor oherwydd ei bod yn portreadu’r emosiynau na ellir eu siarad neu na allant gael eu clywed.

Rydym hefyd wedi bod yn dysgu llawer am fynegiant wyneb ac yn ymgorffori’r elfen honno o arwyddo a BSL. Oes gennych chi air sy’n disgrifio cymeriad? Ond, a allwch chi ei ddangos ar eich wyneb mewn gwirionedd? Allwch chi ei wir ymgorffori yn hytrach na’i oslefu â’ch llais?’
Jessie FranksActor

Cytunodd Jonny: ‘Yr hyn sydd mor hyfryd am Erin yw ei bod hi bron a bod yn gymeriad. Rydym yn edrych ar lawer o wahanol bersonoliaethau Scrooge a gall fod yn fregus iawn ar adegau. Mae Erin fel petai’n ei arwain. Mae eu perthynas wedi tyfu, gallwch weld y rhyngweithio rhyngddynt, a’r cysylltiad â hi a gweddill y cast sy’n gwneud hyn yn brydferth dros ben.’

I Jessie mae yna reswm personol bod y sioe hon mor bwysig. Yn gynharach eleni cafodd ddiagnosis o golled clyw yn ei hochr chwith.

‘Mae gweithio ar A Christmas Carol wedi dangos i mi sut mae yna ffyrdd y gallwch fod yn fwy na geiriau. Ac mae yna ffyrdd y gallwch greu celfyddyd heb siarad. Rwy’n meddwl ei fod yn gam pwysig iawn ymlaen i grewyr ifanc ac i sefydliadau ei ymgorffori yn eu perfformiadau.’

Bu’r Coleg yn gweithio gyda Taking Flight Theatre Company ar y cynhyrchiad hwn. Wedi'u lleoli yng Nghymru maent yn cynnig cyngor, gwybodaeth neu ysbrydoliaeth ar integreiddio mynediad a gweithio gyda chast cynhwysol.

Storïau eraill