Neidio i’r prif gynnwys

Pwy ydym ni

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r dalent greadigol orau o bedwar ban byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, cynnig hyfforddiant i fwy nag 900 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd. 

Cyfunir talent a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail â diwydiant, i wireddu breuddwydion. Fel lle i bawb, mae uchelgais creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Grymuso rhagoriaeth

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd gan ymgysylltu â’r cyhoedd yn eu gwaith ar bob cyfle, a’u cefnogi fwyfwy i gyd-greu cyfnodau preswyl mewn lleoliadau cymunedol amrywiol. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, rydym yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig ac mae ein rhaglen berfformio o weithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr.

Yn ogystal â rhaglen amrywiol o berfformiadau, sy’n cynnwys myfyrwyr o bob disgyblaeth, mae’r Coleg yn denu artistiaid rhyngwladol blaenllaw, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu gan rai o berfformwyr mwyaf adnabyddus y byd. Wedi’n hysbrydoli gan bosibiliadau perfformio ac amrywiaeth greadigol, rydym yn hyrwyddo cydweithredu ac yn grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau. 

Amrywiaeth Greadigol

Mae calendr digwyddiadau’r Coleg yn llawn o dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn, yn cynnwys cyngherddau cerddorfaol, datganiadau, drama, opera a theatr gerdd. Mae amrywiaeth creadigol y Coleg yn sicrhau amgylchedd ysgogol a phrofiad eang i fyfyrwyr pob disgyblaeth.

Cysylltiadau â'r diwydiant

Mae gan ein hathrawon ymroddedig gyfoeth o brofiad proffesiynol a phrofiad yn y diwydiant ac mae’r Coleg yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau celfyddydol uchel eu proffil, yn cynnwys  BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, artistiaid a chyfarwyddwyr gwadd, er mwyn sicrhau bod natur alwedigaethol unigryw ein rhaglen hyfforddiant yn adlewyrchu arfer ac amodau presennol y byd proffesiynol.

Wedi ein hysbrydoli gan bosibiliadau perfformio ac amrywiaeth greadigol, rydym yn hybu'r arfer o gydweithio ac yn grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau. Mae angerdd a chrefft yn cydblethu â phrofiad a chwarae, gan ddyrchafu, pryfocio, gwthio a thrawsnewid.

Gweledigaeth a strategaeth

Mae ein fframwaith strategol yn cyflwyno cyfeiriad a blaenoriaethau hirdymor y Coleg ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Caiff ei arwain gan ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n pwrpas, a'i ategu gan ein gwerthoedd cyffredin. Ein gweledigaeth yw newid bywydau, a thrawsnewid a chysylltu cymunedau drwy'r celfyddydau.

Wedi'i ddatblygu drwy ymgynghori â staff, myfyrwyr, llywodraethwyr a phartneriaid, mae'r fframwaith yn adlewyrchu'r gwerthoedd, yr uchelgeisiau a'r pwrpas cyffredin sy'n llunio ein cymuned a'n dyfodol.

Mae wedi'i adeiladu o amgylch tair thema strategol, gydag amrywiaeth, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn wedi'u plethu drwy'r cyfan.

  • Creu gwerth i Gymru
  • Darparu hyfforddiant o'r radd flaenaf
  • Cryfhau cynaliadwyedd

Gyda'i gilydd, mae'r themâu hyn yn darparu sylfaen glir ar gyfer sut rydym am symud ymlaen gyda'n gilydd fel sefydliad i gyflawni ein huchelgeisiau a chryfhau ein heffaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Tra bod y fframwaith yn gosod ein cyfeiriad hirdymor, caiff ei gyflawniad ei lywio drwy ymgynghori parhaus, cynllunio blynyddol, cynlluniau manwl a chydweithio ar draws y Coleg a'r diwydiannau ehangach.


Ein gwerthoedd

  • Arbenigol a chynhwysol
  • Cyfoes a chydweithredol
  • Dyfeisgar a chyfrifol


Gyda'n gilydd, rydym yma dros y celfyddydau, Cymru a'r dyfodol.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.


Adran archwilio

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf