Neidio i’r prif gynnwys

Ein llogi ni

Gadewch i ni gynnal eich digwyddiad. Rydym wedi ennill enw da am gynnal digwyddiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf, dathliadau personol clos, darllediadau byd-eang a llwyddiannau perfformio cyffrous.

Croeso i'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yng nghanol Caerdydd.


Mae ein hadeilad yn hygyrch i bawb ac mae o fewn cyrraedd yn rhwydd i lawer o gysylltiadau trafnidiaeth, felly mae'n lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad nesaf. Rydym yn deall bod pob digwyddiad yn unigryw, a bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i deilwra pob agwedd ar gyfer eich anghenion a'ch disgwyliadau.

Rheoli digwyddiadau proffesiynol

Drwy ein llogi ni byddwch yn elwa o'n harlwy unigryw ac arbenigedd rheoli digwyddiadau proffesiynol o'r safon uchaf. Fel cynllunio digwyddiadau, cymorth technegol profiadol, arlwyo o safon uchel, gwasanaeth croesawus i gwsmeriaid, a thalentau perfformio rhagorol i ddiddanu eich gwesteion - mae popeth ar gael yn fewnol. Yn ogystal ag arbed amser ac arian i chi, gallwn roi tawelwch meddwl i chi o wybod bod popeth yn cael ei wneud dan un to.

Dewch atom ni a byddwch mewn cwmni da gyda rhai o ddigwyddiadau a sefydliadau mwya'r byd, gan gynnwys NATO, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC, cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd Cyngres Delynau'r Byd, Elusen Aloud, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain, Pinewood Films, Dr Who, Aston Martin ac Admiral Insurance. 

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni

'O'r ymholiad cyntaf fe wnaethoch chi ddelio â'n harcheb yn broffesiynol iawn. Roedd yr holl gyfarfodydd yn rhoi tawelwch meddwl i ni ac roedden ni'n gwybod bod popeth dan reolaeth gennych. Cawsom sylw heb ei ail, roedd y staff technegol i gyd yn wych ac ar ben arall y radio, fe wnaeth y staff blaen tŷ ein helpu â phob cais, a doedd dim byd yn ormod o drafferth.'
Prifysgol CaerdyddYsgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
'Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i chi a’ch tîm am helpu i wneud ein noson yn un gwbl hudolus. Roedd y bwyd, yr awyrgylch a’r trefniadau yn ardderchog; mae eich proffesiynoldeb a’ch ymroddiad yn ddiguro, ac ni fyddwn yn petruso’r un eiliad cyn argymell eich gwasanaethau a’r lleoliad i eraill. Rwy’n mawr obeithio y byddaf yn cydweithio â chi eto yn y dyfodol.'
Rheolwr GyfarwyddwrCynyrchiadau RLC
'Mae’r rhain yn gyfleusterau o’r radd flaenaf na allwn ond breuddwydio amdanynt pan ddechreuais yn y proffesiwn.'
Syr Bryn TerfelDirprwy Lywydd CBCDC
'Tirnod dinesig newydd i Gaerdydd.'
RIBASefydliad Brenhinol Penseiri Prydain

Ein gofodau


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf