
Llogi perfformiwr yng Nghaerdydd a ledled Cymru
Rydym yn cysylltu trefnwyr digwyddiadau â cherddorion sy’n fyfyrwyr a graddedigion sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel. P’un a ydych yn trefnu priodas, seremoni wobrwyo, cinio corfforaethol neu ddigwyddiad cymunedol, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r perfformwyr cywir i gyd-fynd â’ch digwyddiad a’ch lleoliad.
Perfformwyr byw ar gyfer digwyddiadau yng Nghaerdydd a ledled Cymru
Mae cynllun ‘Llogi Perfformiwr’ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu cerddorion byw ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, o gynulliadau bychan cartrefol i achlysuron ffurfiol mwy.
Mae pob archeb:
- Wedi’i chyfatebu’n ofalus i’ch digwyddiad a’ch gofynion
- Wedi’i rheoli trwy broses archebu broffesiynol y Coleg
- Wedi’i chyflwyno gan gerddorion sydd wedi’u hyfforddi i safonau conservatoire
Os ydych eisoes yn gwybod am beth rydych chi’n chwilio, gallwn helpu i’w drefnu. Os ydych chi’n dal i archwilio syniadau, gallwn gynghori ynghylch perfformwyr a fformatau addas.
Cerddoriaeth fyw ar gyfer ystod eang o achlysuron
O groesawu gwesteion mewn derbyniad diodydd i ddarparu perfformiadau nodwedd mewn cinio gwobrwyo, gall y cerddorion cywir helpu i greu naws a rhoi profiad cofiadwy. Gall ein perfformwyr talentog helpu i drawsnewid eich digwyddiadau, megis:
- Priodasau a derbyniadau priodas
- Derbyniadau diodydd
- Ciniawau corfforaethol a digwyddiadau busnes
- Seremonïau gwobrwyo
- Galâu elusennol a digwyddiadau codi arian
- Digwyddiadau cymunedol
- Dathliadau preifat
Tysteb
Pa fath o gerddorion allwch chi eu llogi?
Mae’r cynllun Llogi Perfformiwr yn cyfateb cerddorion i’ch briff penodol, fel eich bod yn cael y perfformwyr cywir ar gyfer eich digwyddiad yn hytrach na dewis o restr osodedig.
Mae ein perfformwyr yn gweithio ar draws ystod eang o arddulliau ac mewn amrywiaeth o leoliadau cerddorol. Yn dibynnu ar eich digwyddiad, efallai y byddwn yn argymell:
- Unawdwyr megis pianyddion, feiolinyddion neu gantorion
- Deuawdau neu driawdau acwstig
- Pedwarawdau llinynnol ac ensembles siambr
- Triawdau jazz neu ensembles jazz bach
- Cerddorion sy’n arbenigo mewn repertoire clasurol, cyfoes neu theatr gerddorol
Er enghraifft, mae cwsmeriaid yn aml yn holi am logi pedwarawd llinynnol yng Nghaerdydd ar gyfer priodasau neu dderbyniadau ffurfiol, tra bod eraill yn archebu ensembles jazz neu acwstig ar gyfer digwyddiadau corfforaethol ac achlysuron gyda’r hwyr.
Dyma rai o’r perfformwyr sydd ar gael:
Pam archebu cerddorion drwy’r cynllun Llogi Perfformiwr?
Perfformwyr wedi’u hyfforddi mewn conservatoires
Fel un o ddim ond naw conservatoire cerddoriaeth arbenigol yn y DU, mae ein cerddorion ymhlith y dalent newydd orau. Mae ein holl gerddorion yn fyfyrwyr neu’n raddedigion diweddar, wedi’u hyfforddi i safon broffesiynol uchel ac â phrofiad o berfformio i gynulleidfaoedd byw.
Proses archebu ddibynadwy
Mae’r Coleg yn rheoli’r archebu o’r ymholiad i’r perfformiad, gan helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
- Rheolir contractau gan y Coleg
- Cadarnheir manylion archebu yn ysgrifenedig
- Cefnogir perfformwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad
Llai o waith gweinyddu i chi
Nid oes angen i chi gydlynu’n uniongyrchol â cherddorion unigol. Rydym yn cymryd gofal o’r cyfathrebu, y logisteg a’r talu fel y gallwch ganolbwyntio ar y digwyddiad ei hun.
Cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg
Trwy archebu drwy’r cynllun Llogi Perfformiwr, rydych hefyd yn helpu cerddorion ifanc talentog i feithrin profiad perfformio proffesiynol gwerthfawr.
Ffioedd
Mae’r cynllun Llogi Perfformiwr yn gweithredu fel gwasanaeth archebu proffesiynol, gyda cherddorion yn cael eu talu’n deg am eu hamser, eu gwaith paratoi a’u perfformiad.
- Caiff ffioedd eu teilwra i’ch digwyddiad ond maent yn dechrau o £140
- Cytunir ar brisiau fesul cais gan ddibynnu ar yr archeb
- Mae costau’n adlewyrchu ffactorau megis maint yr ensemble, hyd y perfformiad, gofynion ymarfer a lleoliad
Gall ffi weinyddu o 10% a TAW fod yn berthnasol lle bo’n briodol.
Unwaith y byddwn yn deall gofynion eich digwyddiad, byddwn yn rhoi dyfynbris clir cyn cadarnhau unrhyw archeb.
Sut mae’r broses archebu’n gweithio
Os ydych am logi perfformiwr yng Nghaerdydd neu drefnu cerddoriaeth fyw ar gyfer digwyddiad yng Nghymru, bydd ein tîm yn hapus i helpu.
1. Gwneud ymholiad
Cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein a dywedwch wrthym am eich digwyddiad, gan gynnwys y dyddiad, y lleoliad a’r math o berfformiad sydd gennych mewn golwg.
2. Rydym yn argymell perfformwyr addas
Mae ein tîm yn adolygu eich briff ac yn nodi cerddorion neu ensembles a fyddai’n addas i’ch digwyddiad.
3. Cadarnhau’r archeb
Rydych yn derbyn dyfynbris a manylion archebu wedi’u teilwra. Ar ôl cadarnhau, bydd y Coleg yn anfonebu’r llogwr, ac rydym yn rheoli’r trefniadau ac yn cefnogi’r perfformwyr cyn y digwyddiad. Fel arfer bydd angen blaendal ac mae’r Coleg yn talu’r perfformwyr.





