Neidio i’r prif gynnwys

Cymdeithas cyn-fyfyrwyr

Mae’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr yn galluogi graddedigion i gael gwybod beth mae eu cyd-aelodau yn ei wneud, i elwa ar y manteision sydd ar gael i gyn-fyfyrwyr ac i gadw mewn cysylltiad. 

Beth bynnag ydych chi’n ei wneud a ble bynnag yn y byd y bo hynny, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi


Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ei fyfyrwyr yr adnoddau priodol i’w galluogi nhw i lwyddo yn y diwydiannau o’u dewis.

O ganlyniad i hynny, mae ein graddedigion yn gweithio ym mhob cwr o’r byd – ar y llwyfan a’r sgrin, a mewn cerddorfeydd cenedlaethol, prifysgolion, cwmnïau cynhyrchu a sefydliadau celfyddydol eraill.

Manteision a gwasanaethau

Mae llawer o fanteision cysylltiedig ag ymuno â’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr. Ar wahân i’ch helpu chi i ailgysylltu â’ch cyfoedion, rydyn ni’n cynnig amryw o wasanaethau, a nodir isod:

  • Cyngor ac arweiniad 1:1 ar yrfaoedd am hyd at 3 blynedd wedi graddio (cysylltwch â alumni@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
  • Aelodaeth o’r Llyfrgell am hyd at 3 blynedd wedi graddio (cysylltwch â library@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
  • Disgowntiau yn y Swyddfa Docynnau
  • Disgownt ar ofodau rihyrsal (cysylltwch â venues@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
  • Disgowntiau ar aelodaeth ISMEquitySpotlightCymdeithas Rheolwyr Llwyfan
  • Cysylltiad rheolaidd yn tynnu sylw at berfformiadau a digwyddiadau sydd i ddod, newyddion y cyn-fyfyrwyr, cyfleoedd am swyddi, lleoliadau a chystadlaethau
  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig a sesiynau datblygiad proffesiynol

Cadw mewn cysylltiad

Byddem wrth ein boddau’n ailgysylltu â chyn-fyfyrwyr. Anfonwch eich straeon, rhannwch eich lluniau, neu gael rhagor o wybodaeth am sut gallech chi gymryd rhan drwy anfon e-bost at alumni@rwcmd.ac.uk.

Cefnogi CBCDC

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y Coleg yn parhau i ffynnu a chynnig yr hyfforddiant a’r cyfleoedd gorau posib i’r bobl ifanc sy’n dewis astudio yma, fel chi.

I wneud hyn, mae angen cefnogaeth arnom – ewch i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi helpu’r Coleg a’i fyfyrwyr.

Cael gwybod mwy


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf