

Cerddoriaeth
ORA Singers
- Trosolwg
- Gwe 2 Hyd 1.15pm
- Lleoliad
- Neuadd Dora Stoutzker
- Prisiau
- Darbodus £7 | Pris arferol £9 | Talu ymlaen £11
Tocynnau: Darbodus £7 | Pris arferol £9 | Talu ymlaen £11
Wrthi’n llwytho...
Gwybodaeth
Mae cantorion gwobrwyedig ORA Singers a Suzi Digby OBE yn dychwelyd am eu trydedd Arddangosfa Cyfansoddwyr Graddedig; cynllun arloesol y grŵp i gefnogi cyfansoddwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae’r cyngerdd hwn yn cynnwys perfformiadau cyntaf gweithiau gan bump o sêr sy’n dod i’r amlwg fel cyfansoddwyr: Eluned Davies, Harry Rees, Marcello Palazzo, Sarah Henderson ac Evie Atkin. Dewiswyd y cyfansoddwyr hyn yn benodol o restr hir a chystadleuol o ymgeiswyr o bob rhan o’r wlad ac maent wedi’u comisiynu i ysgrifennu ‘myfyrdod’ ar gampweithiau’r dadeni gan John Sheppard, Peter Philps, a Thomas Tomkins.
Profwch y genhedlaeth nesaf o gyfansoddi gyda chantorion clodwiw ORA Singers a ddisgrifiwyd gan The Times fel “Y grŵp lleisiol mwyaf persain yr ochr hon i’r nefoedd.”




