

Diwrnodau agored
Diwrnod Agored Cerddoriaeth Rhithwir | Israddedig ac Ôl-raddedig
Trosolwg
17 Medi 2026 | 4:30yp - 6yp
Manylion
Sesiwn ar-lein yw hon
Prisiau
Ddim yn berthnasol
Tocynnau: Ddim yn berthnasol
Bydd y Diwrnod Agored Cerddoriaeth Rhithwir yn sesiwn ddifyr ac addysgiadol, yn cynnwys sgwrs gyda Zoë Smith, Pennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig Cerddoriaeth, ac Andrea Jones, Pennaeth Rhaglenni Israddedig Cerddoriaeth, ac yna sgyrsiau ysbrydoledig gan fyfyrwyr presennol wrth iddynt rannu eu teithiau i astudio mewn Conservatoire a’u profiadau yn y Coleg.
Byddwch hefyd yn clywed gan ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i’ch helpu i ffynnu yn ystod eich amser gyda ni. Yn ogystal, bydd Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cipolwg ar fywyd myfyrwyr a’r llu o gyfleoedd i gymryd rhan y tu hwnt i’ch astudiaethau.
Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda sesiwn holi ac ateb, gan roi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cyhoeddir yr amserlen lawn yn fuan - archebwch eich lle nawr i fod y cyntaf i dderbyn y manylion pan fydd yn mynd yn fyw.
Cwestiynau Cyffredin
Darganfod mwy

Cerddoriaeth

Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Pres

Arwain

Gitâr

Y Delyn

Jazz

Piano

Llinynnau

Llais

Chwythbrennau

Opera
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy









