Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

Grip of Life

Tocynnau: £13-£15

Gwybodaeth

Sut beth yw bod yn fenyw ganol oed?

Gallai unrhyw un gydag ateb ei rannu gyda Eleanor a Sophie, er mwyn iddyn nhw allu ffoi o'r ystafell fach ddychrynllyd yma?

Dewch i ymuno â'r actores Gymreig enwocaf nad ydych chi erioed wedi clywed amdani, a'r actores broffesiynol Gymreig leiaf enwog heddiw, wrth iddyn nhw geisio datrys y cwestiwn, gyda bron i gan mlynedd o hanes yn eu gwahanu.

Ysbrydolwyd drama newydd Noni Lewis gan fywyd yr actores lwyfan a ffilm Gymreig hynod o anadnabyddus, Eleanor Daniels. Er bod y ddwy fenyw yn dod o wahanol gyfnodau hanesyddol, mae Eleanor a Sophie yn rhannu straeon teimladwy a doniol am syndrom yr ymhonnwr, ofn a difaterwch canol oed, realiti emosiynol y perimenopos, effaith galar, euogrwydd, ailymgnawdoliad a chwestiwn mawr bywyd - ‘pam?’ 

Gan Noni Lewis
Cyfarwyddwr Matthew Holmquist

Cyd-gynhyrchiad gyda Riverfront Theatre, Casnewydd
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Theatrau Sîr Gâr

Digwyddiadau eraill cyn bo hir