Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Arwain Cerddorfaol

  • Dyfarniad:

    MMus Arwain Cerddorfaol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    816F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Mae hyfforddiant un i un arbenigol, profiad arwain ymarferol a chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn rhan ganolog o’r cwrs meistr arloesol hwn.

Trosolwg o’r cwrs

Gyda’n rhaglen meistr arbenigol, byddwch yn dysgu sut mae bod yn arweinydd creadigol gyda steil ac awdurdod.

Mae ein cwrs yn hyblyg, sy’n eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau cerddorol a’ch uchelgais o ran gyrfa. Cewch eich arwain gan gerddorion proffesiynol, a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich cryfderau a’ch sbarduno i fod yr artist mwyaf dawnus y gallwch fod.

Ochr yn ochr â’ch hyfforddiant, byddwch yn ennill yr holl sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa yn y diwydiant celfyddydau sy’n newid drwy’r amser.

Y tu allan i’r dosbarth, gallwch gymryd rhan mewn gyfleoedd arwain a chyfarwyddo – o ensembles, ymarferion a chynyrchiadau’r Coleg i berfformiadau myfyrwyr sy’n hyrwyddo eu hunain.

Mae’r cysylltiadau cydweithredol sydd gennym â’r diwydiant celfyddydau yn allweddol i’r rhaglen hon – fel Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru – sy’n rhoi cyfle i chi rwydweithio a chael cipolwg heb ei ail ar sut mae’r busnes yn gweithio.

Mae ein rhaglen yn rhoi cyfle i chi wirioneddol wthio eich ffiniau artistig, meithrin partneriaethau creadigol cryf a pharatoi eich hun yn llwyddiannus ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa gerddorol.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mae eich hyfforddiant arbenigol yn cyfuno cymysgedd o wersi un i un a gwersi grŵp (sef yr hyn rydym yn ei alw’n ‘brif astudiaeth’). Mae’n cynnwys dosbarth techneg arwain sy’n cynnwys astudio ac ymarfer techneg i ffwrdd o’r gerddorfa.
  • Er mwyn cefnogi eich prif astudiaeth, byddwch yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau arwain, yn ogystal â thiwtorialau dadansoddi ymarferion. Bydd gennych chi weithdai mewn darllen sgoriau, hyfforddiant clywedol ac astudiaethau repertoire ehangach hefyd.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Byddwch yn cael profiad ymarferol, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i gyfarwyddo ensembles y Coleg, ymarferion cerddorfaol a chynyrchiadau, neu i arwain perfformiadau myfyrwyr sy’n hyrwyddo eu hunain.
  • Gyda’n rhaglen astudio, gallwch lunio eich modiwlau craidd i gyfateb i’ch sgiliau a’ch nodau gyrfa. Gyda rhai modiwlau, bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd o ran sut cewch eich asesu.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd niferus i weithio gyda myfyrwyr ar eich cwrs, yn ogystal â’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau drama. Mae’n cynnig ffordd greadigol o wella eich sgiliau a meithrin perthnasoedd sy’n gallu para ymhell ar ôl eich cyfnod yn y brifysgol.
  • Rydym wedi meithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau celfyddydol cenedlaethol, fel Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru. Maent yn gwahodd ein myfyrwyr yn rheolaidd i arsylwi ar eu harweinwyr ar waith, yn aml gyda chyfleoedd i drafod y broses wedyn. Gallwch hefyd arsylwi ar gerddorfeydd a chorau sy'n ymweld fel rhan o Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant.
  • Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch ail flwyddyn yn datblygu prosiectau proffesiynol, sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Er mwyn cefnogi eich gwaith, byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â mentor arbenigol, a fydd yn cynnig arweiniad i’r diwydiant ac yn helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Bob blwyddyn bydd artistiaid rhyngwladol adnabyddus yn ymweld â’r Coleg fel rhan o’n rhaglen berfformio. Gallwch gymryd rhan yn eu dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr lle byddwch yn cael gwybodaeth a chyngor am ddatblygu eich gallu artistig i lefel uwch.
  • Er mwyn datblygu eich arbenigedd, gallwch hefyd feithrin perthynas waith gydag ensemble yn y Coleg heb fod yn gerddorfa (fel cerddorfa chwyth, band pres neu gôr siambr). Gallwch helpu’r arweinydd rheolaidd a dirprwyo i ymarfer repertoire dethol gan leisiau sy’n cael eu tangynrychioli.
  • Cewch gyfle i ddatblygu eich rhaglen eich hun o repertoire hanfodol mewn trafodaeth â’r arweinydd preswyl, gan eich galluogi i amrywio eich diddordebau neu gyfuno eich arbenigeddau.
  • Drwy ein seminarau cyflogadwyedd rheolaidd, byddwch yn dysgu sut mae sefydlu eich hun fel artist annibynnol a datblygu gyrfa bortffolio lwyddiannus. Byddwn yn ymdrin â phynciau fel rhwydweithio, cyfryngau cymdeithasol, treth a chyllid a cheisiadau am gyllid.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf