

Teulu
Theatr Scarlet Oak: The Zoo That Comes To You
Trosolwg
Sad 17 Ion, 2pm
Manylion
Amser rhedeg: 60mun
Lleoliad
Prisiau
£10 oedolyn | £8 plentyn (D16)
Oedran
5+ Oed
Tocynnau: £10 oedolyn | £8 plentyn (D16)
Gwybodaeth
Mae The Zoo That Comes To You yn dilyn ymdrechion angerddol dau sy’n frwd dros anifeiliaid i rannu gyda’r byd eu cariad tuag atynt a’u pryder amdanynt. Maent yn derbyn anifeiliaid sydd angen seibiant, gofal neu gartref dros dro ac, ar ddamwain, wedi canfod eu hunain gyda lloches gyfan, ond heb ymwelwyr! Felly mae pawb - anifeiliaid a bodau dynol fel ei gilydd - wedi penderfynu ei bod hi’n bryd mynd allan, gweld y byd, a dod â’r sŵ atoch chi.
Dewch i gwrdd â’r grŵp eclectig hwn o anifeiliaid hyfryd ond digywilydd wrth iddynt drafod eu profiadau bywyd a’r heriau y maent yn eu hwynebu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae ganddynt lawer i’w ddweud ac maen nhw eisiau ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu, oherwydd eu bod yn gwybod y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr yn y byd.
Gyda phypedwaith, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus, mae Theatr Scarlet Oak yn eich croesawu i ymuno â’r sgwrs am gadwraeth anifeiliaid.








