Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cerddorfa WNO: Dathliad Blwyddyn Newydd

Tocynnau: £5 - £22

Dathlwch ddyfodiad y Flwyddyn Newydd yn arddull Fienna gyda dehongliad rhythmig Opera Cenedlaethol Cymru o’r Cyngerdd Blwyddyn Newydd byd-enwog yn Fienna. Bydd Cerddorfa WNO yn llenwi’r lle gyda detholiad bendigedig o waltsiau, polcas a dawnsfeydd i godi calonnau a chroesawu’r flwyddyn o’n blaenau mewn steil.

Dan gyfarwyddyd y Cyngerddfeistr David Adams, ac yng nghwmni Artistiaid Cyswllt diweddaraf WNO, mwynhewch gerddoriaeth ddisglair Johann Strauss II, naws danbaid cerddoriaeth Dvořák a dawnsfeydd bywiog gan Brahms a Strauss, a mwy.

P’un a ydych yn darganfod y traddodiad am y tro cyntaf neu’n dod yn ôl am fwy, ni ddylech golli’r cyngerdd hwn.

Johann Strauss II Waldmeister Overture

Johann Strauss II Vergnügungszug, Polka

Josef Strauss Transactionen, Waltz

Dvořák Slavonic Dance No 7 C Major

Johann Strauss I Furioso Galop

Egwyl

Weber Euryanthe Overture

Joseph Strauss Sphärenklänge Waltz

Brahms Hungarian Dance No 6

Strauss Éljen a Magyár Polka

Digwyddiadau eraill cyn bo hir