Neidio i’r prif gynnwys

Celfyddydau Cynhyrchu

Rydym yn cynnig cyfleoedd i archwilio theatr dechnegol, rheoli llwyfan a dylunio ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed. 

Mae ein cyrsiau a’n dosbarthiadau meistr yn rhoi cyfle i bobl ifanc creadigol gael mewnwelediad gwirioneddol i hyfforddiant ysgol ddrama a’r diwydiannau ‘cefn llwyfan’ ehangach. Cyflwynir dosbarthiadau arbenigol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, mewn sgiliau sy’n cynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, gwisgoedd a chynllunio set.

Cyrsiau byr

Ar gwrs byr tri diwrnod caiff y cyfranogwyr gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o rolau a sgiliau cefn llwyfan mewn cyfres o weithdai ymarferol gyda thiwtoriaid arbenigol sy’n weithwyr proffesiynol yn eu meysydd. Nid oes angen profiad blaenorol - dim ond diddordeb mewn bod yn greadigol, mwynhau gwneud pethau, a pharodrwydd i gymryd rhan!

Cyfleoedd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd:

  • Cynllunio setiau theatr a ffilm, 
  • Cynllunio gwisgoedd, 
  • Celf a dylunio, 
  • Darlunio, 
  • Gwneud pypedau/propiau, 
  • Ffasiwn, 
  • Cynllunio goleuo, 
  • Cynllunio sain neu reoli llwyfan.
'Fe wnes i fwynhau’r ysgol haf yn fawr iawn a dysgais gymaint am yrfaoedd cefn llwyfan yn y theatr. Bydd y wybodaeth rydw i wedi ei chael yn fuddiol iawn yn y dyfodol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym. Roedd y sesiynau’n rhai hwyliog a rhyngweithiol'
Cyfranogwr yn yr Ysgol Haf

Ffioedd a chymorth ariannol

Mae Drama Ieuenctid CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bob person ifanc 11-18 oed sydd â diddordeb brwd mewn theatr i elwa gan yr hyfforddiant drama arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u profiad neu fodd ariannol.

Rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar wneud ein cyrsiau’n hygyrch i bob person ifanc sydd â gwir ddiddordeb yn y theatr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol cysylltwch â ni.

Dysgwch fwy am astudio yn RWCMD


Adran archwilio

Newyddion diweddaraf