Neidio i’r prif gynnwys

Tianyi Lu

Arweinydd

Graddiodd Tianyi o CBCDC yn 2015 gydag MMus mewn Arwain Cerddorfaol.

Mae Tianyi Lu yn Artist Cysylltiol y Coleg a hefyd yn aelod o’i Fwrdd Cyfarwyddwyr. Tra’n hyfforddi yn CBCDC cafodd ei recriwtio gan KD Schmid, un o’r prif asiantau cerddoriaeth glasurol rhyngwladol, pan oedd yn arwain Perfformiad Orchestraadventure! y Coleg i dros 1000 o blant yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Gan arwain y ffordd i fenywod ym maes arwain, yn 2019 daeth Tianyi yn Arweinydd Preswyl Benywaidd cyntaf WNO ac, mewn cyflawniad cyntaf arall, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Arwain Ryngwladol Guido Cantelli yn yr Eidal.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Yn 2020, dyfarnwyd y wobr gyntaf iddi yn nawfed Cystadleuaeth Arwain Ryngwladol Syr Georg Solti. Dyfarnwyd iddi hefyd Wobr Ieuenctid a Gwobr y Gerddorfa Cerddorfa Teatro Regio, a ddewiswyd gan aelodau.

Yn nhymor 2024/25, ymhlith ei pherfformiadau cyntaf niferus bu Tianyi yn arwain Cerddorfa Symffoni’r BBC ym Mhroms y BBC yn Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd a’r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin.

‘Yn y Coleg Brenhinol y gwnes i ffeindio fy llais fel artist. Yn ystod fy nghyfnod i yno fe ges ’r hyder i ymddiried ynof fy hun, i wrando ar fy llais mewnol, a gwybod y bydd gen i’r adnoddau angenrheidiol i ddatrys beth bynnag ddaw i fy rhan. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi parhau i deimlo cysylltiad cryf â'r Coleg a'i ethos o gynhwysiant ac arloesedd.

Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am y ffordd mae’r diwydiant celfyddydau creadigol yn symud ymlaen, yn cysylltu â’n cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth. Mae gennym y potensial i drawsnewid ein hunain, y byd rydyn ni’n byw ynddo a’r ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â’n gilydd a’n hamgylchedd.
Mae addysg yn rhan hanfodol o hyn, ac mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn bwerdy lle mae lleisiau newydd ac amrywiol yn cael eu meithrin a’u grymuso i ysbrydoli, herio a siapio ein byd wrth iddo newid.’
Tianyi Lu

Adran archwilio