

Hannah Walters
Saer yn Wild Creations
Graddiodd Hannah o CBCDC yn 2022 â Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd.
Nid oedd Hannah erioed wedi teithio dramor cyn iddi hyfforddi ar y cwrs Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd, gan feithrin ei hyder, mireinio ei sgiliau a throi ei chariad at waith saer yn yrfa ryngwladol lwyddiannus yn niwydiannau creadigol Cymru, gan weithio fel gweithiwr llawrydd yn Wild Creations (a sefydlwyd gan Matt Wild, un arall o raddedigion CBCDC), a gweithio ar brosiectau yn Orlando a Geneva.
Astudiodd waith coed a gwaith saer yn ei choleg lleol, ond nid oedd hi eisiau gweithio ar safle adeiladu. Cynigiodd cwrs CBCDC leoliadau yn y diwydiant iddi gyda chwmnïau megis Bad Wolf, Bay Productions a Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, gyda’i lleoliad gwaith olaf yn mynd â hi i Geneva. Mae Hannah hefyd yn rhoi gwersi gwaith saer yn ei chanolfan gymunedol leol yn y Rhondda.
‘Byddwn i’n rhoi sgôr o 10 allan o 10 ar gyfer fy mhrofiad yn CBCDC. Y ddwy flynedd ar y cwrs Adeiladu Golygfeydd yw’r rhai gorau rydw i wedi eu cael erioed. Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i wedi gwneud y dewis iawn, ond â chefnogaeth anhygoel y staff, cynyddodd fy hyder yn aruthrol. Rydw i’n dal i gadw mewn cysylltiad â nhw, ac maen nhw hyd yn oed wedi gofyn i mi fynd yn ôl i roi darlithoedd i fyfyrwyr newydd ar eu blwyddyn gyntaf.
Yn y Coleg y gwnes i ddysgu popeth bron. Mae’r cwrs yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o bob rôl, sy’n eithaf unigryw—sa i’n credu bod llawer o gyrsiau fel hyn. Mae Caerdydd yn un o’r lleoedd gorau ar gyfer y diwydiant yma, â chynifer o gwmnïau mawr ym maes ffilm, teledu, a theatr. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y pum lleoliad mewn diwydiant dros y ddwy flynedd, a oedd yn cynnig profiad ymarferol a chyfle i ddysgu’r gwahanol ffyrdd o adeiladu pethau.
Pan wnes i ddechrau, doedd gen i ddim pasbort hyd yn oed. Erbyn hyn, rydw i wedi gweithio ar brosiectau anhygoel mewn gwahanol rannau o’r byd. Rydw i hefyd yn rhoi gwersi yn fy nghanolfan gymunedol leol yn y Rhondda, gan ysbrydoli pobl ifanc â’r technegau gwaith coed rydw i wedi eu dysgu. Rydw i’n mwynhau’r agwedd hon yn fawr iawn, a gobeithio y galla i ddal i gynyddu fy ngwybodaeth ac addysgu pobl eraill.’Hannah Walters