Neidio i’r prif gynnwys

Elliot Kempton

Cerddor siambr

Graddiodd Elliot o CBCDC yn 2022 gyda gradd BMus (Anrh).

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Graddiodd Elliot yn 2022 a symudodd i Lundain lle ymunodd â Phedwarawd Fibonacci, un o brif bedwarawdau llinynnol Ewrop. Ymhlith eu nifer o wobrau, yn ddiweddar enillodd y Pedwarawd Gystadleuaeth Pedwarawd Llinynnol Rhyngwladol Borciani ac maent yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Artistiaid Clasurol Ifanc (YCAT).

'Rwy’n teimlo’n hynod ffodus fy mod wedi astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaeth y lle hwn fy mharatoi’n wych ar gyfer y proffesiwn, yn enwedig drwy’r cyfleoedd cerddoriaeth siambr, lle datblygais fy nghariad at chwarae mewn pedwarawdau. Fe wnaeth y Coleg fy helpu i ddarganfod yr hyn y gallaf ei gyfrannu at gerddoriaeth.

Mae rhywbeth arbennig iawn am y lle hwn. Yr amgylchedd gwaith, athrawon rhyfeddol, llu o gyfleoedd, ac nid oes cyfleusterau tebyg i’w cael yn unman arall. Pan wnes i raddio, roedd gen i olwg gyflawn ar gerddoriaeth a hyder newydd yn fy chwarae, rhywbeth mae’r Coleg yn bendant yn ei feithrin.

Symudais i Lundain ac ymunais â Phedwarawd Fibonacci, sydd bellach wedi dod yn swydd llawn amser i mi - rhywbeth na ddychmygais erioed y byddai’n bosibl, gan mai prin yw’r fraint o wneud hynny.


Mae’n fraint i mi nawr roi yn ôl i raglen cerddoriaeth siambr y Coleg gyda fy mhedwarawd. Rydym mor gyffrous i gael cydweithio a pherfformio gyda’r myfyrwyr, ac i greu cysylltiadau ystyrlon gyda’r Coleg a’r gymuned ehangach.’
Elliot Kempton

Mae Pedwarawd Fibonacci bellach yn un o Bedwarawdau Preswyl y Coleg, ynghyd â Phedwarawd Carducci - rhaglen arloesol sy’n gosod y pedwarawdau llinynnol o’r radd flaenaf hyn yng nghanol cymuned y Coleg, ac sydd â’r nod o ddylanwadu ar ddyfodol chwarae llinynnol ledled Cymru a thu hwnt.

‘Rhoddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hyfforddiant eithriadol i mi ar gyfer gyrfa ym maes cerddoriaeth siambr.

Mae’n fraint i mi nawr roi yn ôl i raglen cerddoriaeth siambr y Coleg gyda fy mhedwarawd. Rydym mor gyffrous i gael cydweithio a pherfformio gyda’r myfyrwyr, ac i greu cysylltiadau ystyrlon gyda’r Coleg a’r gymuned ehangach.’
Elliot Kempton

Adran archwilio