Neidio i’r prif gynnwys

Sarah Hemsley-Cole

Rheolwr Llwyfan a chyfarwyddwr cwmni.

Graddiodd Sarah o CBCDC ym 1993 gydag MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau.

Yn Gymrawd ac yn un o raddedigion CBCDC, Sarah yw’r ail fenyw erioed i ennill Gwobr Dechnegol Cymdeithas Theatr Prydain, pan waned hi’n Dechnegydd y Flwyddyn yn 2020. Sefydlodd NOWIE (Rhwydwaith Menywod mewn Digwyddiadau) i gynrychioli menywod yn y diwydiant:

Sarah yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni rheoli digwyddiadau SC Productions Ltd ac mae wedi gweithio gyda phawb a phopeth, yn amrywio o Ed Sheeran i Taylor Swift, i Ddinas yr Annisgwyl yng Nghaerdydd a ‘The Passion’ Port Talbot. Fodd bynnag, bydd bob amser yn gwneud yn siŵr ei bod ar gael i weithio ar Eisteddfod yr Urdd sy’n un o’i hoff ddigwyddiadau. Pa bynnag waith mae hi’n ei wneud, mae’n sicrhau bod perthynas waith gref gyda’r Coleg - ar ôl cyflogi tua 200 o raddedigion hyd yma.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Mae’n bwysig dangos y daith gadarnhaol y gallwn ei chymryd. Dros fy 30 mlynedd yn y diwydiant, rydw i wedi hyrwyddo amlygrwydd menywod yn y sector – mae’n bwysig i fenywod ifanc gael modelau rôl i anelu atynt a chael eu dylanwadu ganddynt. Bu’n rhaid i ni fod yn arloeswyr ac estyn ein llaw i lawr i’r merched sy’n dod i fyny y tu ôl i ni.

I mi, mae’r Coleg wedi bod yn rhan annatod o bopeth rydw i wedi’i wneud yn fy ngyrfa. Roedd y Coleg yn dda iawn i mi; rhoddodd y sgiliau a’r hyfforddiant i mi. Ac rwy’n cydnabod hynny yn y cenedlaethau sydd wedi dod ar fy ôl.

Mae cynnal y berthynas honno a’r rhwydwaith hwnnw o gefnogaeth, dysgu a mentora wedi bod yn bwysig iawn i mi.’
Sarah Hemsley-Cole

Adran archwilio