Neidio i’r prif gynnwys

Jonathan Parkin

Gitarydd

Graddiodd Jonathan o CBCDC yn 2014 gyda gradd BMus (Anrh) Cerddoriaeth.

Tra’n hyfforddi yn y Coleg cafodd Jonathan gyfle i astudio yn Jyväskylä, y Ffindir, gyda’r cyfansoddwr enwog Kai Nieminen, a ddisgrifiwyd ganddo fel profiad cerddorol gwirioneddol unigryw a ffurfiannol. Ar ôl graddio cwblhaodd ei ôl-radd yn Llundain cyn symud i Valencia, Sbaen lle, ddeng mlynedd ar ôl graddio, mae bellach yn falch o fod yn athro yn eu conservatoire.

Mae wedi ennill gwobrau a chyrraedd rowndiau terfynol mewn rhai o’r cystadlaethau gitâr rhyngwladol mwyaf mawreddog gan gynnwys Certamen Llobet (Ail Wobr, Gwobr y Cyhoedd 2018 a Gwobr Llobet 2020), Concurso International Raimundo (Gwobr Gyntaf 2018), Cystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Madrid (Rownd Derfynol 2020), Cystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Nuertingen (Rownd Derfynol 2020) a Chystadleuaeth Sefydliad Gitâr yr Iseldiroedd (Rownd Derfynol 2021).

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘O’r eiliad y cyrhaeddais i’r adeilad, roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth arbennig yma. Roedd diddordeb gwirioneddol y panel clyweliadau ynof i, fel unigolyn ac fel cerddor, yn creu awyrgylch croesawgar a oedd yn gosod y naws ar gyfer fy mhrofiad dysgu drwyddo draw. Rhoddodd y cwrs amser gwerthfawr i mi gyda’m hofferyn, gan fy ngalluogi i archwilio ei holl alluoedd mynegiannol.

Mae cydweithio yn ganolog i fywyd cerddor, boed yn gweithio gyda chyfansoddwyr, peirianwyr sain, dawnswyr neu aml-offerynwyr. Mae’r pwyslais ar gydweithio yng Ngholeg Brenhinol Cymru wedi bod yn allweddol wrth symud ymlaen ar fy nhaith gerddorol. Roedd cwrdd a gweithio ochr yn ochr â cherddorion, actorion, rheolwyr llwyfan a dylunwyr theatr gwych yn creu awyrgylch ysbrydoledig i astudio ynddo.

Roedd y cyfleoedd perfformio yn y Coleg yn uchafbwynt yn fy amser yno. Mae perfformio yng Nghanolfan Anthony Hopkins a hefyd yn Neuadd Dora Stoutzker a chael y profiadau perfformio anhygoel hyn yn un o fy hoff atgofion.'
Jonathan Parkin

Adran archwilio