Neidio i’r prif gynnwys

Kina Miyamoto

Cyfansoddwr

Graddiodd Kina o CBCDC yn 2018 gydag MMus mewn Cyfansoddi.

Ar ôl graddio mewn Cyfansoddi yn 2018 mae Kina Miyamoto wedi gweithio am bum mlynedd yn Japan fel cynllunydd sain yn Capcom, un o gynhyrchwyr gemau mwyaf y byd. Mae hi wedi arbenigo mewn creu sain y gelyn ar gyfer Resident Evil 4, a ryddhawyd ym mis Mawrth 2023 ac sydd hyd yma wedi gwerthu dros 4 miliwn o unedau ledled y byd. Yn fwyaf diweddar mae’n gweithio fel cyfarwyddwr sain, gan arwain ar brosiectau.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Yn y Coleg, roedd wastad amser i drafod lle nad oedden ni’n dweud pethau negyddol, roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu rhywbeth gwell. Rwy’n meddwl bod hyn wir wedi rhoi’r hyder i mi gyfathrebu â phobl. Roedd y math yma o sesiwn wedi’i hadeiladu i waith yr adran gyfansoddi, ac roeddwn yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.’

Mae’r Coleg hwn yn rhoi’r cyfleoedd i chi agor ac ehangu’ch doniau, hyd yn oed y rheini nad oeddech chi’n sylweddoli eu bod gennych. Byddwn i’n dweud wrth ddarpar fyfyrwyr mai CBCDC yw’r lle iawn i roi’r sgiliau i chi weithio yn y diwydiant sain. Ac i raddedigion diweddar, peidiwch â thanbrisio eich potensial oherwydd mae’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy gydol eich amser yma yn werthfawr iawn. Peidiwch â bod ofn mentro, oherwydd bydd pobl yno i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.’
Kina Miyamoto

Adran archwilio