
Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Gitarydd
Graddiodd Luke o CBCDC yn 2024 gyda gradd BMus (Anrh) Cerddoriaeth.
Gan raddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2024, tra’n astudio yn CBCDC dyfarnwyd ysgoloriaeth lawn i Luke gan Ymddiriedolaeth Julian Bream, sy’n cefnogi myfyrwyr gitâr glasurol eithriadol dalentog.
Derbyniodd Wobr Goffa Simon Clarkson am y ddawn gerddorol orau, Gwobr Orpheus ar gyfer llais a gitâr, ac enillodd Wobr John Mills am gitâr unigol ddwywaith. Fel Artist Ifanc 2023/4 y Sefydliad Gitâr Rhyngwladol, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain yn King’s Place hefyd.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
‘Cymerodd fy athrawon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy rhinweddau cynhenid a’u meithrin mewn ffordd a oedd yn fwy caboledig ac yn gryfach. Roeddwn i wedi addysgu fy hun yn llwyr cyn i mi ddechrau’r gitâr glasurol, ac er bod gen i lawer o bethau oedd yn unigryw i mi mewn ffordd dda, roedd angen eu siapio a’u mowldio. Athroniaeth y Coleg yw dod yn gerddor yn eich hawl eich hun, a’r hyn sy’n fy ysbrydoli mewn gwirionedd yw’r syniad o fod yn rhywbeth sy’n unigryw iawn ac yn hynod wreiddiol.
Mae’n werthfawr iawn cael athrawon fel Helen, John a Zoran. Maen nhw i gyd mor wahanol ond maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn wych. Maen nhw wir yn helpu i greu mwy na dim ond gitarydd da iawn. Maen nhw’n ysbrydoli hunaniaeth artistig unigol a chreadigrwydd.
Mae’r Coleg yn amgylchedd sy’n rhoi’r amser a’r gofod sydd eu hangen arnoch chi i dyfu fel artist, i ddatblygu eich llais unigryw eich hun. Mae hynny’n rhywbeth nad oes gan unrhyw conservatoire arall.’Luke Bartlett