

Mared Pugh-Evans
Telynores
Graddiodd Mared gyda gradd BMus (Telyn) yn 2020.
Yn 2024 daeth Mared yn seithfed telynor swyddogol i’w Fawrhydi Brenin Charles III, ers iddo ail-greu’r rôl yn y flwyddyn 2000 fel Tywysog Cymru i feithrin talent o Gymru ar y delyn, offeryn cenedlaethol Cymru.
Gan barhau â thraddodiad hir o delynorion brenhinol sydd â chysylltiadau â’r Coleg: olynodd Mared y graddedigion Alis Huws, a Hannah Stone a ddaliodd y rôl o 2011. Cymrawd, un o raddedigion a chyfarwyddwr artistig Cyngres Telynau’r Byd 2020, Catrin Finch oedd y delynores gyntaf i ddal y swydd wedi iddi gael ei hailsefydlu.
Graddiodd Mared o CBCDC gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2020, gan ennill Gwobr Syr Ian Stoutzker fawreddog y Coleg am yr offerynnwr mwyaf rhagorol, ac aeth ymlaen i dderbyn ei gradd Meistr yn y Celfyddydau: Perfformio (Dosbarth Cyntaf) o’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Mae hi wedi ymddangos yn rheolaidd ar ddarllediadau teledu a radio byw o brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac o stiwdio S4C tra yn CBCDC, yn ogystal â chyfweliad a pherfformiad byw ar ‘Saturday Live’ Radio 4.
‘Rhoddodd fy nghyfnod yn astudio yn CBCDC gyfle i mi archwilio cymaint o wahanol lwybrau a phosibiliadau ym maes cerddoriaeth, sydd wedi llunio nid yn unig fy ngallu cerddorol ond hefyd llwybr fy ngyrfa.’Mared Pugh-EvansGraddedig y delyn
Gweithio yn y gymuned
Bellach yn gerddor llawrydd wedi’i lleoli yn Llundain, un o elfennau pwysicaf ei gwaith yw ym maes y gymuned a chyfranogi, yn hwyluso gweithdai a phrosiectau ym maes addysg, o ddosbarthiadau meithrin i ysgolion uwchradd, mewn ysbytai, cartrefi gofal a chyfleusterau gofal seiciatrig.
Mae Mared yn gerddor ar gyfer rhaglen y gymuned a chyfranogi Neuadd Wigmore, Music for Life, ac yn Gerddor Cerdd Byw Nawr, yn gweithio’n llawrydd gyda nifer o sefydliadau ar eu prosiectau cymunedol, gan gynnwys Academi St Martin-in-the-Fields, Sinfonia Dinas Llundain a’r Academi Gerdd Frenhinol.
Ym mis Ebrill, ynghyd â gwesteion allweddol eraill o CBCDC, gwahoddwyd Mared i Dderbyniad Cerddoriaeth Gymunedol yng Nghastell Windsor, gan ddathlu ‘rôl hollbwysig cerddoriaeth mewn cryfhau cymunedau a gwaith pwysig y rheini sy’n datblygu arweinwyr cerddorol y dyfodol, megis cyfarwyddwyr corau a bandiau, trwy ddarparu gwybodaeth a phrofiad i’r genhedlaeth nesaf.’
Telynor y Brenin
Yn ogystal â pherfformio yn y Senedd, Palas Buckingham a Phalas Sant Iago, mae uchafbwyntiau diweddar yn y rôl hon wedi cynnwys darllediad arbennig y Pasg ar Radio 3 o fan geni Dewi Sant yn Sir Benfro, perfformio gyda’r coryddion yn Eglwys Gadeiriol Wells, a datganiadau ynghyd â nifer o brosiectau cymunedol.
Mae gan Mared lu o ddatganiadau ar y gweill ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys Gŵyl Eglwys Gadeiriol Llandaf a Gŵyl Abergwaun, yn ogystal â’i holl waith cymunedol parhaus.